Back

Ein Gweithdrefn Gwyno

Beth i'w wneud os ydych am wneud cwyn

 

• Os ydych yn dymuno gwneud cwyn y peth gorau i wneud yw siarad ag aelod o staff yn gyntaf, naill ai wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. Dyma’r ffordd orau i ni ymateb ac edrych i mewn i'r broblem. Byddwn bob amser yn ceisio datrys problemau yn gyflym, yn syml ac yn deg gyda chyn lleied o ffurfioldeb â phosibl.

• Yn y lle cyntaf, siaradwch ag aelod o staff y swyddfa docynnau sydd ar ddyletswydd. Os na all ddatrys y sefyllfa ar unwaith bydd yn eich cyfeirio at y Rheolwr ar Ddyletswydd.

• Os bydd angen rhoi rhagor o sylw i'r mater gall y Rheolwr ar Ddyletswydd ofyn i chi gyflwyno eich cwyn yn ysgrifenedig (naill ai drwy lythyr neu e-bost), wedi ei chyfeirio at y Rheolwr Tŷ a fydd yna’n ymateb neu yn anfon eich cwyn at yr Adran berthnasol fel sy'n briodol.

• Gofynnwn i chi wneud eich cwyn o fewn 14 diwrnod o'r digwyddiad yr hoffech gwyno amdano. Po hwyaf y caiff ei adael ar ôl y digwyddiad cyn ei ddwyn at ein sylw, anoddaf y bydd i ni ymchwilio’n foddhaol i’r mater

• Byddwn bob amser yn cydnabod derbyn eich cwyn a byddwn yn rhoi graddfa amser os na allwn roi ymateb ar unwaith i chi. Efallai y bydd achlysuron pan fyddwn yn gofyn am wybodaeth neu ymatebion ychwanegol oddi wrthych i gwblhau ein hymchwiliad.  

• Rydym yn derbyn llythyron yn y Gymraeg a'r Saesneg a byddwn yn ymateb i'ch cwyn yn yr un iaith a wnaethoch gysylltu â ni yn wreiddiol.

 

Yn y lle cyntaf, cysylltwch â'r Rheolwr Gweithrediadau gyda'ch cwyn:

 

Jasmine Revell

Rheolwr Gweithrediadau 

Theatr Mwldan

Cardigan

Ceredigion

SA43 1JY

 

jasmine@mwldan.co.uk

Top
E