Back

Dangosiadau hygyrch

DDANGOSIADAU HAMDDENOL

 

Beth yw’r rhain? 

Mae Dangosiadau sy’n addas ar gyfer Awtistiaeth yn ddangosiadau sydd wedi eu haddasu’n gynnil i greu amgylchedd sy’n groesawgar i bobl sydd ag ystod o gyflyrau megis awtistiaeth, anableddau dysgu ac anrhefn wybyddol. Mae’r lefelau sain wedi eu lleihau ynddynt, y golau wedi ei adael arno ar lefel isel ac nid oes unrhyw hysbysluniau ar ddechrau’r ffilm. Gall mynychwyr ddod â bwyd a diod eu hun i’r sinema, gallant fod yn swnllyd ac eistedd ble bynnag sydd fwyaf cysurus iddynt. Ar gyfer y dangosiadau hyn ni allwch gadw seddau penodol a fe fydd ystafell dawel ar gael cyferbyn â’r awditoriwm os oes angen i unrhyw un ei defnyddio.

                            

Dangosiad hamddenol nesaf - 

Ghostbusters: Frozen Empire (12A) Dydd Sul 31 Mawrth @ 1.45pm

 

 

 

 

 

DDANGOSIADAU GYDAG ISDEITLAU 

Beth yw’r rhain?

Mae dangosiadau gydag isdeitlau/capsiynau yn darparu trawsgrifiad o’r sain mewn ffilm, wedi ei arddangos ar hyd gwaelod y sgrin sinema. Ynghyd â deialog y ffilm, mae’r is-deitlau’n cynnwys sain nad yw’n ddeialog megis “(mae’n ochneidio)” neu “(drws yn gwichian)”.

Pwy all elwa o’r rhain?

Pobl sy’n Drwm eu Clyw

 

Ddangosiadau nesaf gydag isdeitlau yw:

The Boy & The Heron (12A) Dydd Llun 25 Mawrth @ 1.30pm 

Drive Away Dolls (15) Nos Fawrth 26 Mawrth @ 7.30pm 

Dune: Part Two (12A) Nos Lun 1 Ebrill @ 7pm

Ghostbusters: Frozen Empire (12A) Nos Fercher 3 Ebrill @ 7.45pm

Hamlet (12A) Nos Sadwrn 6 Ebrill @ 6.00pm 

Kung Fu Panda 4 (PG) Nos Fawrth 9 Ebrill @ 6.45pm 

Godzilla X Kong: The New Empire (12A) Nos Fercher 10 Ebrill @ 7.00pm 

Seize Them! (15) Nos Sul 21 Ebrill @ 8.00pm

Back To Black (15 TBC) Nos Fawrth 23 Ebrill @ 6.45pm

Civil War (12A) Nos Fawrth 30 Ebrill @ 7.15pm

The Fall Guy (12A) Nos Fawrth 7 Mai @ 7.45pm

Origin (12A) Nos Fercher 8 Mai @ 7.00pm

 

 

Nodwch os gwelwch yn dda, nad oes isdeitlau ar gael ar bob ffilm, ond ble bynnag y mae’n bosibl rydym yn anelu at geisio dangos o leiaf un ffilm â chanddi isdeitlau o’r ffilmiau hynny sydd wedi eu hisdeitlo. 

 

 

 

DANGOSIADAU SAIN DDISGRIFIO

(Ar hyn o bryd nid oes cyfleuster ar gyfer sain ddisgrifioym Mwldan 3)

 

Beth yw’r rhain? 

Bydd dangosiadau sain ddisgrifio yn darparu sylwebaeth leisiol sydd wedi recordio o flaen llaw sy’n disgrifio nodweddion megis y cyffro, iaith gorfforol, mynegiadau a symudiadau yn ystod y ffilm. Mae’r sylwebaeth yn ffitio o fewn y seibiau tawel yn y ffilm, fel nad yw’n torri ar draws y deialog. Mae’n drac sain ar wahân caiff ei ddarlledu trwy glustffonau diwifr, a dim ond y person sy’n eu gwisgo bydd yn ei glywed.

Siaradwch â’n Swyddfa Docynnau oes bydd angen clustffonau arnoch.

Am fwy o wybodaeth am hyn cyfeiriwch at: http://www.rnib.org.uk

Pwy all elwa o’r rhain?

Pobl â nam ar eu golwg. Mae Sain Atgyfnerthu ar gael ar ein holl ddangosiadau sinema a’n digwyddiadau darlledu byw.

Byddwch yn ymwybodol, nid yw ein gwasanaeth Sain Ddisgrifio ar gael ar hyn o bryd ym Mwldan 1. Rydym yn gweithio'n galed i ddatrys y mater hwn cyn gynted ag y gallwn.

 

 

Am fwy o wybodaeth cyfeiriwch at http://www.dimensions-uk.org/support-services/autism-care/autism-friendly-screenings/

 

 

 

DANGOSIADAU SAIN ATGYFNERTHU

(Ar hyn o bryd nid oes cyfleuster ar gyfer atgyfnerthu sain ym Mwldan 3)

 

Beth yw hwn?

Mae Sain Atgyfnerthu yn gyfleuster sy’n atgyfnerthu trac sain y dangosiadau sinema trwy glustffonau. Mae hyn yn gweithredu yn lle’ch cymorth clyw.

Mae Sain Atgyfnerthu ar gael ar bob un o’n dangosiadau sinema - gofynnwch i’n swyddfa docynnau am glustffonau os hoffech wneud defnydd o’r gwasanaeth hwn.

 

Pwy all elwa o’r rhain?

Pobl sy’n Drwm eu Clyw.

 

Top