Back

Cardi Bach (U)

Digwyddiad Codi Arian tuag at Gymdeithas Rheilffordd Cardi Bach Railway Society

Mae’n bleser gennym gyfl wyno casgliad o bedair ffilm fer wedi seilio ar Reilffordd y Cardi Bach, a arferai redeg o Hendy-gwyn i Aberteifi rhwng 1886 - 1963. Roedd y llinell yn enwog am ei natur wledig, golygfeydd deniadol a graddiannau gerwin. I nifer yn yr ardal y llinell oedd ffocws y gymuned leol, gan ddenu llysenw’r Cardi Bach.

Wedi ei chlustnodi ar gyfer ei chau o dan Fwyell Beeching, darfu gweithredu ar y llinell ar 27 Mai 1963. Marciodd y cau newid mewn ffordd gyfan o fyw a iwedd oes.

Caiff ffi lm gan Dr George Penn ei chynnwys sy’n dogfennu siwrnai olaf y trên yn 1962, a ffi lm sy’n dangos golygfeydd oddi ar y trên, un arall sy’n manylu ar siwrnai teithiwr o Gaerfyrddin i weld ei theulu yn Eglwyswrw, ac un arall sy’n dangos y llinell yn gweithio’n brysur ym 1957.

Emyr Phillips bydd yn adrodd yr hanes yn fyw yn y dangosiadau. Digwyddiad dwyieithog fydd hwn.

Dathlu Agor Canolfan Dreftadaeth Y Cardi Bach yn Login

£7.70 (£5.90)

 

Browse more shows tagged with:

Top