Journey's End (12A)

Saul Dibb | 2018 | UK | 106’

Mae’r ddrama annifyr hon am grŵp o filwyr Prydeinig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, yn  addasiad newydd ar ddrama glasurol R.C. Sherriff. Mae’r dynion blinedig yn y ffosydd wrthi’n aros am rai dyddiau cyn yr ymosodiad anochel ar y gelyn. Mae Journey’s End yn canolbwyntio ar y milwyr cyffredin hynny, a’r straen anferthol sydd arnynt. Mae’r ymladd, pan ddaw, yn gyflym ac yn greulon, ond gosoda’r cyfarwyddwr Dibb ei ffocws ar y seicoleg ddyrys sy’n clymu’r dynion hyn ynghyd. Ffilm sy’n ein hatgoffa’n amserol am wir gost gwrthdaro ofnadwy.

DDANGOSIADAU GYDA ISDEITLAU: DYDD MERCHER 14 MAWRTH @ 5.55YH
BYDD SAIN DDISGRIFIO A SAIN ATGYFNERTHU AR GAEL YN Y FFILM HON

Browse more shows tagged with: