Back

The Sisters Brothers (15)

Jacques Audiard | 2019 | France | Spain | Romania | Belgium | USA | 122’

Mae’n 1851, ac mae Charlie ac Eli Sisters (Joaquin Phoenix a John C. Reilly) yn frodyr, ac yn lleiddiaid. Mae bechgyn yn tyfu’n ddynion mewn byd anwar a gelyniaethus, ac mae’r brodyr Sisters yn cael eu hunain ar siwrnai drwy’r Gogledd Orllewin, siwrnai lle mae’r ddau yn dechrau cwestiynu dulliau’r llall yn fwyfwy. Yma caiff y ffilm gowbois sinematig ei hailwampio fel archwiliad peryglus, ffraeth, ac emosiynol cathartig o’r hyn mae’n golygu i fod yn ddyn. Hefyd yn serennu Jake Gyllenhaal a Riz Ahmed.

£7.70 (£5.90)

Browse more shows tagged with:

Top