Back

JENNIFER TAYLOR

Mae Jennifer Taylor yn gweithio gyda ffilm a pherfformiad byw i greu senarios absẃrd sy’n archwilio ymddygiad defodol ac ymarferion seremonïol dyrys. Mae’n defnyddio hen strwythurau mewn tirweddau anghysbell fel setiau llwyfan parod. Mae siambrau claddu Neolithig hynafol a thyrrau rhyfedd yng Nghymru yn darparu gosodiadau swrrealaidd, dadleoledig sy’n creu teimlad o ddirywiad ôl-apocolyptaidd.

Mae Taylor hefyd yn ail-greu fersiynau ffugiedig o’r gosodiadau hyn o fewn orielau, gyda chylchau cerrig fflwroleuol lo-fi. I’r rhain y bydd yn cyflwyno perfformwyr mewn gwisgoedd sy’n ymgasglu i actio defodau penodol, gan gyfeirio at y gyfriniaeth sy’n gysylltiedig â safleoedd o’r fath a dwyn elfennau ffuglen wyddonol eraill i mewn. Mae tiwbiau dryslyd a balwnau enfawr lletchwith yn gweithredu fel propiau gwirion, argoelus wrth i’w pantomeimau diffygiol datblygu.

Cewch gyfle i weld un o’i pherfformiadau mewn digwyddiad arbennig i gloi’r arddangosfa ar 14 Gorffennaf am 7.30yh sy’n rhad ac am ddim i fynychu ac yn agored i bawb. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o'r perfformiad, naill ai fel un o'r perfformwyr neu drwy helpu i baratoi yn yr wythnos sy'n arwain at y perfformiad yn creu gwisgoedd neu setiau, cysylltwch â ni. Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn clywed gan bobl sydd am chwarae offeryn fel rhan o'r perfformiad.

Cwblhaodd Taylor ei MA mewn Cerflunio yn y Coleg Celf Brenhinol a’i BA yn Ysgol Ruskin, Prifysgol Rhydychen. Mae wedi arddangos ac wedi llwyfannu digwyddiadau perfformio yn nifer o orielau a mannau cyhoeddus gan gynnwys A Gentil Carioca yn Rio de Janeiro, Fondation Cartier pour l’art contemporain ym Mharis, The Wapping Project, Prosiectau Gwadd Yinka Shonibare, Artsadmin, Rifiera Ffrainc, Yr ICA, Flowers East yn Llundain a Modern Art Rhydychen a Gwasg Prifysgol Rhydychen. Mae wedi bod yn rhan o gyfnodau preswyl artistiaid  ar draws y byd gan gynnwys yn Largo das Artes yn Rio de Janeiro, Yr Ysgol Brydeinig yn Rhufain, a g39 yng Nghymru. Yn wreiddiol o Dŷ Ddewi, mae Taylor yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. 

www.jennifertaylor.co

AM DDIM

Browse more shows tagged with:

Top