Back

Jessica Lloyd-Jones: A Chemical Process @Oriel Mwldan

Yn y man lle mae cerddoriaeth a chelf yn cyfarfod, mae Jessica Lloyd-Jones yn archwilio syniadau o egni a ffenomenau naturiol trwy ddefnydd deunyddiau a golau, er mwyn darparu persbectifau newydd ar y byd sydd ohoni.

Mae gwaith diweddaraf Jessica’n ymateb i dirweddau daearegol megis gweithfeydd glo, gan ddefnyddio deunyddiau sy’n cynnwys glo, haearn ocsid a bywyd planhigion fel sail gwaith ffotograffig, cerfluniol a 2D.

Bydd yr arddangosfa’n agor ar 30ain o Ebrill am 4yp gyda chyflwyniad gan yr artist am ei gwaith. Bydd Jessica yn sôn am brofiad ei chyfnod preswyl diweddar yng Nghanolfan Cerflunio Leitrim, Iwerddon ble datblygodd y corff o waith caiff ei arddangos (am y tro cyntaf yng Nghymru) yn Oriel Mwldan. 

Bydd yn trafod sut gwnaeth y darnau celf ddatblygu mewn ymateb i gloddfa Argina, gan gynnwys ei hymgais i gymryd castiau o wyneb y graig, tynnu lluniau'r planhigion sy’n goroesi yn ddwfn tu fewn y twneli a’i harsylwadau ar liwio haearn ocsid ar furiau’r gloddfa sydd wedi ysbrydoli dull gweithredu creadigol hollol newydd yn ei hymarfer artistig. 

Bydd yn gyfle i gael mewnwelediad i brofiad Jessica fel artist sy’n ymarfer, gan gynnwys ei phroses gweithio unigryw, ac i glywed am y syniadau sy’n llywio'r corff gwaith hwn sy’n ymwneud ag egni, sylwedd ac adweithiau cemegol sy’n bresennol yn y dirwedd.                         

www.jessicalloyd-jones.com

Am ddim

Browse more shows tagged with:

Top