Back

André Rieu Maastricht Concert 2019: Shall We Dance?

Ar gyfer 2019 mae André yn holi Shall We Dance? wrth iddo eich gwahodd i ymuno ag ef yng nghysur eich sinema leol, a’ch croesawu i’r dref hardd a hanesyddol sy’n llawn atgofion arbennig iawn i André yn ogystal â’i ddilynwyr ar draws y byd. Yn perfformio’n fyw o sgwâr y dref ganoloesol syfrdanol, bydd Cerddorfa Johann Strauss 60 darn yn ymuno ag ef. Mae André wedi teithio’r byd gyda’r Gerddorfa am dros 30 mlynedd, yn ogystal â chriw o dros 100 o ddawnswyr.

“Bydd eleni yn enwedig o arbennig - yn perfformio cerddoriaeth fy nghalon: y Waltz. Dewch i ymuno â ni ar gyfer “The Beautifil Blue Danube” a nifer o syrpreisys eraill, rhai ohonynt byddwn yn eu datgelu yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwyf am weld pawb yn dawnsio’r waltz yn ystlysau’r sinema!”

£16 (£15)

Browse more shows tagged with:

Top