Back

Mark Thomas: Serious Organised Criminal

FFRYDIO FYW TRWY YOUTUBE - archebwch trwy'r ddolen archebu isod

Tocynnau £5

 

Cawsom ymateb mor wych i Mark Thomas - ShowTime From The Frontline yr mis diwethaf, rydym wedi penderfynu ei wneud eto! Bydd Mark Thomas - Serious Organised Criminal yn sgrinio gyda sesiwn Holi ac Ateb fyw ar 9fed o Orffennaf am 7.30pm. Archebwch trwy'r ddolen archebu ar ein gwefan a bydd 20% o'r enillion yn cael eu rhoi i gefnogi’r Mwldan yn ystod ein cyfnod cau. Diolch Mark!

 

Mark Thomas - Serious Organised Criminal

Dyma stori wir Mark am eisin cacennau fel arf gwleidyddol, am brotestiadau i Amddiffyn Swrrealaeth, ac am ddod i hoffi’r Heddlu. Mae Mark yn troi brwydr 18 mis dros Sgwâr y Senedd a'r hawl i brotestio yn sioe stand-yp ryfedd o wych. Dyma sut y gwnaeth Mark frwydro yn erbyn y gyfraith… gyda chaniatâd y gyfraith.

Mae'n fyd doniol, chwerthinllyd lle mae anarchwyr, gothiaid ac artistiaid yn byw, lle mae Mark yn dod yn ddeiliad Record Byd Guinness, yn trefnu 2,500 o brotestiadau mewn un diwrnod ac yn newid y gyfraith yn y broses.

 

£5

7.30pm - Cyflwyniad gan Mark (yn fyw gyda BSL)
7.35pm - Serious Organised Criminal (opsiwn testun pennawd)
8.40pm - Egwyl Cysur
8.50pm - Diweddariadau Serious Organised Criminal (yn fyw gyda BSL)
9.10pm - Egwyl Cysur Arall
9.20pm – Sesiwn Holi ac Ateb gyda Mark a gwesteion arbennig (yn fyw gyda BSL)

Canllaw Oedran - 15 (peth rhegi)

Browse more shows tagged with:

Top