Back

MARK THOMAS: WALKING THE WALL

FFRYDIO FYW TRWY VIMEO - archebwch trwy'r ddolen archebu isod

Ac yntau byth yn un i gymryd yr opsiwn hawdd, penderfynodd Mark fynd i grwydro yn y Dwyrain Canol a cherdded ar hyd Gwahanfur Israel rhwng ochr Israel ac ochr Palesteina. Dyma stori 300,000 o ymsefydlwyr; wal 750 km; chwe arestiad, un  llabyddiad; gormod o hwmws a chwestiwn syml ... oes modd dianc rhag y cwbl gyda thaith gerdded dda? 

Yn ôl yr arfer, bydd cyflwyniad byw gan Mark (gyda dehonglydd BSL), ffrydio’r sioe wedi'i ffilmio (gydag opsiwn i isdeitlo) ac yna sesiwn Holi ac Ateb gyda gwesteion arbennig (gyda dehonglydd BSL). Ac fel o'r blaen bydd recordiad y noson gyfan ar gael am 24 awr ar ôl y llif byw.  

Rydym hefyd yn cynnig trafodaeth am ddim ychwanegol wedi'i recordio gyda Mark a Phil Stebbing a aeth gyda Mark a ffilmio'r daith gerdded. Bydd hwn ar gael am wythnos ar ôl y llif byw. 

 

Mwy o wybodaeth am sioe Mark, Walking the Wall ...

Ym mis Rhagfyr 2009, treuliodd Mark 9 wythnos yn cerdded Gwahanfur Israel yn ei gyfanrwydd. 

Dechreuwyd ar y wal yn 2003 ac ar ôl ei chwblhau, bydd yn 750km o hyd. Mae’n strwythur milwrol gyda thyrau gwylio yn ei oruchwylio gydag arwyddion yn rhybuddio am ‘farwolaeth ar unwaith’ a Heddlu Byddin Israel yn ei batrolio. Mae'n amgylchynu'r Palesteiniaid yn llwyr a gallant fynd allan trwy reolfeydd gyda chaniatâd yn unig. Mae tua 300,000 o Balesteiniaid yn byw yn yr ardal honno. 

Yn ystod y 9 wythnos o gerdded, cafodd Mark ei rwystro a’i atal rhag mynd 6 neu 7 gwaith am sawl awr gan y Fyddin. 

Cafodd ei rwystro a’i atal rhag mynd gan y Palesteiniaid hefyd, ond roedd hynny ar gyfer coffi a bwyd yn bennaf. 

 

Archebwch trwy'r ddolen archebu ar ein gwefan a bydd 20% o'r enillion yn cael eu rhoi i gefnogi’r Mwldan yn ystod ein cyfnod cau.

 

£5
Canllaw Oedran - 15 (peth rhegi)

Browse more shows tagged with:

Top