Back

NT Live: All My Sons

Yn cael ei darlledu’n fyw o The Old Vic yn Llundain, mae’r enillydd Gwobr Academy Sally Field (Steel Magnolias, Brothers & Sisters) a Bill Pullman (The Sinner, Independence Day) yn serennu yn y ddrama rymus All My Sons.

America, 1947. Er gwaethaf dewisiadau anodd a digwyddiadau hyd yn oed mwy anodd, mae Joe a Kate Keller yn stori lwyddiant. Maen nhw wedi adeiladu cartref, magu dau fab ac wedi sefydlu busnes ffyniannus.

Ond nid yw unrhyw beth yn parhau am byth, ac mae eu bywydau dedwydd, sydd eisoes wedi eu tywyllu gan golli eu mab hynaf i’r rhyfel, ar fin chwalu’n deilchion. Gyda dychweliad rhywun o’r gorffennol, caiff gwirioneddau sydd wedi eu claddu ers amser hir eu gorfodi i’r wyneb a chaiff pris eu breuddwyd Americanaidd ei ddinoethi.

Jeremy Herrin (NT Live: This House, People, Places & Things) sy’n cyfarwyddo cast sy’n cynnwys Jenna Coleman (Victoria), a Colin Morgan (Merlin).

Mae All My Sons yn gyd-gynhyrchiad Old Vic a Headlong

£12.50 (£11.50)

Browse more shows tagged with:

Top