Back

NT Live: Cyrano de Bergerac (15)

WEDI GOHIRIO

Mae'n ddrwg gennym eich hysbysu bod NT Live: Cyrano ar 28fed Ebrill wedi eu ohirio. Dyddiad i'w gadarnhau.

Bydd ein Swyddfa docynnau yn cysylltu â chi gan ebost os ydych eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.

*Cliciwch yma i weld ein Cwestiynau Cyffredin ynghylch ad-daliadau, credyd neu symud eich bwciad i'r dyddiad newydd: http://www.mwldan.co.uk/covid-19-statement-theatr-mwldan

NT Live: Cyrano 

Mae James McAvoy (X-Men, Atonement) yn dychwelyd i'r llwyfan mewn addasiad newydd dyfeisgar o Cyrano de Bergerac, wedi'i ddarlledu'n fyw i sinemâu o'r West End yn Llundain.

Yn alluog gydag ysgrifbin ac yn ddrwg-enwog am ymladd, mae gan Cyrano y cyfan bron - pe bai ond yn gallu ennill calon ei wir gariad Roxane. Un broblem fawr yn unig sydd: mae ganddo drwyn mor enfawr â'i galon. A fydd cymdeithas sydd wedi ymgolli mewn narsisiaeth yn cael y gorau ar Cyrano - neu a all ei feistrolaeth ar iaith gyfareddu Roxane?

Addaswyd campwaith Edmond Rostand gan Martin Crimp, gyda Jamie Lloyd (Betrayal) yn cyfarwyddo. Bydd y ddrama glasurol hon yn dod yn fyw drwy ddyfeisgarwch ieithyddol i ddathlu gwrthwynebiad grymus a thrawiadol Cyrano er gwaethaf pob tebygolrwydd.

£12.50 (£11.50)

Browse more shows tagged with:

Top