Back

NT Live: Jack Absolute Flies Again

SIOE WEDI EI CHANSLO 

Mae'n ddrwg gennym eich hysbysu bod sioe NT Live: Jack Absolute Flies Again ar 26 Awst wedi ei chanslo. Bydd ein Swyddfa docynnau yn cysylltu â chi gan ebost os ydych eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn. *Cliciwch yma i weld ein Cwestiynau Cyffredin ynghylch ad-daliadau, credyd neu symud eich bwciad i'r dyddiad newydd: http://www.mwldan.co.uk/covid-19-statement-theatr-mwldan  

Comedi fywiog newydd.

Gan awdur One Man, Two Guvnors daw drama newydd ddoniol, wedi'i gosod yn ystod yr haf ym Mhrydain y 1940au.

Ar ôl gornest yn yr awyr, mae'r Swyddog Peilot Jack Absolute yn hedfan adref i ailymuno â'i sgwadron Hurricane ifanc gwrol yn RAF Fontwell. Unwaith yn ôl ar dir Prydain, mae Jack yn cael sioc wrth weld ei gyn-gariad, Lydia, yn yr orsaf. Mae'n penderfynu ennill ei chalon, ond nad yw cynnwrf a miri byth yn bell i ffwrdd, ac mae ei ymdrechion yn gyflym troi'n anhrefn.

Mae Thea Sharrock (Me Before You) yn cyfarwyddo cast sy’n cynnwys Caroline Quentin a Richard Fleeshman yn y ffars lawen hon.

£12.50 (£11.50)

Browse more shows tagged with:

Top