Back

NT Live: The Welkin

WEDI GOHIRIO

Mae'n ddrwg gennym eich hysbysu bod NT Live: The Welkin ar 21fed Mai wedi eu ohirio. Dyddiad i'w gadarnhau.

Bydd ein Swyddfa docynnau yn cysylltu â chi gan ebost os ydych eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.

*Cliciwch yma i weld ein Cwestiynau Cyffredin ynghylch ad-daliadau, credyd neu symud eich bwciad i'r dyddiad newydd: http://www.mwldan.co.uk/covid-19-statement-theatr-mwldan

NT Live: The Welkin

Un bywyd yn nwylo 12 o fenywod.

Suffolk wledig yn Lloegr, 1759. Wrth i’r wlad aros am gomed Halley, mae merch ifanc yn cael ei dedfrydu i hongian am lofruddiaeth ysgeler.

Pan mae hi’n honni ei bod yn feichiog, caiff rheithgor o 12 metron eu cymryd o’r tloty i benderfynu a yw hi’n dweud y gwir, neu dim ond ceisio dianc y rhaff. Gyda neb ond Lizzy Luke y fydwraig yn barod i amddiffyn y ferch, a thorf yn gweiddi am waed y tu allan, mae'r metronau'n ymgodymu â'u hawdurdod newydd, a'r diafol yn eu plith.

James Macdonald (Who's Afraid of Virginia Woolf?) sy’n cyfarwyddo Maxine Peake (The Theory of Everything, Funny Cow) a Ria Zmitrowicz (Three Girls, Mr. Selfridge) yn y sioe gyffrous, feiddgar a gafaelgar hon gan yr awdur Lucy Kirkwood (Chimerica, Skins) a enwebwyd am Wobr Tony. Wedi'i darlledu'n fyw o'r National Theatre yn Llundain.

£12.50 (£11.50)

Browse more shows tagged with:

Top