Back

Riverdance 25th Anniversary Show

WEDI GOHIRIO

Mae'n ddrwg gennym eich hysbysu bod dyddiadau sioeau Riverdance 25th Anniversary ar 10fed Mai a 20fed Mai wedi eu ohirio. Dyddiadau i'w cadarnhau.

Bydd ein Swyddfa docynnau yn cysylltu â chi gan ebost os ydych eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.

*Cliciwch yma i weld ein Cwestiynau Cyffredin ynghylch ad-daliadau, credyd neu symud eich bwciad i'r dyddiad newydd: http://www.mwldan.co.uk/covid-19-statement-theatr-mwldan

Riverdance 25th Anniversary 

Mae'r sioe newydd hon ar gyfer Pen-blwydd Riverdance yn 25 oed yn ei hyrddio i'r 21ain ganrif, a bydd yn eich trochi'n llwyr yng ngrym rhyfeddol ac elfennol ei cherddoriaeth a'i dawns. 25 mlynedd yn ôl, gweddnewidiwyd dawnsio Gwyddelig am byth mewn 7 munud. Rhoddodd yr act a berfformiodd yn ystod egwyl Eurovision gipolwg newydd a chyffrous i ddyfodol dawns Wyddelig i filiynau o bobl. Nawr 25 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r cyfansoddwr Bill Whelan wedi ail-recordio ei drac sain syfrdanol tra bod y cynhyrchydd Moya Doherty a’r cyfarwyddwr John McColgan wedi ail-lunio’r sioe arloesol yn llwyr gyda goleuo, taflunio, cynlluniau llwyfan a gwisgoedd arloesol ac ysblennydd. Mae'r ailddyfeisio pwerus a chyffrous hwn o ffefryn teuluol annwyl yn cael ei ddathlu ledled y byd am ei gerddoriaeth sydd wedi ennill Grammy ac am egni gwefreiddiol ei ddawnsio Gwyddelig a rhyngwladol. Wedi'i ffilmio'n fyw yn y 3Arena Dulyn, yr union fan lle cychwynnodd y cyfan, bydd Perfformiad Gala'r Pen-blwydd yn 25 oed yn dod â Riverdance i'r sgrin fawr am y tro cyntaf!

£13.50 (£11)

Browse more shows tagged with:

Top