Back

Royal Ballet: Manon

Mae dehongliad grymus Kenneth MacMillan o gariad trasig Manon a Des Grieux yn gampwaith bale modern, wedi ei gosod i gerddoriaeth gan Massenet. Daeth MacMillan o hyd i gydymdeimlad newydd gyda’r mympwyol Manon a’i hymdrechion i ddianc rhag tlodi. Mae ei olygfeydd ensemble gyda’r Cwmni cyfan yn creu portreadau lliwgar, cymhleth o gymdeithasau gwahanol ym Mharis a New Orleans. Ond pas de deux angerddol Manon a Des Grieux sy’n gyrru’r stori drasig hon, ac yn gwneud Manon yn un o ddramâu mwyaf nerthol MacMillan.

£16 (£15)

Browse more shows tagged with:

Top