Back

Theatr Gen Byw: Macbeth (12A)

Theatr Genedlaethol Cymru 

Mewn partneriaeth â Cadw a gyda chefnogaeth gan Chapter

DANGOSIAD ENCORE (AIL-BERFFORMIAD) O BERFFORMIAD A GIPIWYD YN FYW AR 14 CHWEFROR 2017 

“Hyll yw’r teg, a theg yw’r hyll; Hofran yn yr aflan niwl a’r gwyll.”

Mae brenin yr Alban wedi gwobrwyo ei filwr mwyaf disglair yn hael. Ond mae bodau goruwchnaturiol wedi darogan i Macbeth anrhydedd lawer mwy. Pan fo ei wraig ddidostur yn gwirioni ar addewid o bŵer di-ben-draw, gan annog uchelgais cythreulig ei gŵr, mae ar ben arno, ac mae cynllun dieflig y ddau yn troi’n gyflafan waedlyd.

Cynhyrchiad safle-benodol Theatr Genedlaethol Cymru – yn fyw o Gastell Caerffili – o glasur Shakespeare wedi ei gyfieithu o’r newydd i’r Gymraeg gan y diweddar Gwyn Thomas.

Cast yn cynnwys Richard Lynch (Pobol y Cwm, Y Gwyll) fel Macbeth, a Ffion Dafis (Byw Celwydd, Rownd a Rownd) fel ei wraig ddi-drugaredd. Cyfarwyddwr: Arwel Gruffydd.

“... y mae pethau. Yn ddrwg ddechreuwyd, trwy ddrwg yn ymgryfhau.”

GYDAG IS-DEITLAU SAESNEG 

theatr.cymru          @TheatrGenCymru              #MacbethThGC

Ffotograffydd: Mark Douet

 
£12.50 (£11.50)
A cold and spooky medieval castle is possibly the best location for a production of Shakespeare’s brutal tragedy Macbeth.
Eryl Crump, Daily Post
Mae’n deyrnged o fri i’r diweddar Gwyn Thomas, ac yn ddechre gwych i’r Theatr Gymraeg yn 2017.
Lowri Cooke

Top