Back

9Bach

 Yn dilyn ail-ryddhau’r albwm “9Bach” (Real World Records) a addaswyd yn 2019, bydd y band yn teithio ei début clodfawr o’r un enw am y tro cyntaf. Mae’r albwm yn ailstrwythuro caneuon gwerin Cymreig traddodiadol ar gynfas sain rhithiol ac atgofus, a bydd y band yn ymweld â nifer o ganolfannau  ar draws y DU, gan gynnig cyfle prin i gynulleidfaoedd weld yr act fyw syfrdanol hon. 

Ffurfiwyd y grŵp gan Martin Hoyland (Pusherman) a Lisa Jên (cydweithredwr lleisiol gyda Gruff Rhys/Public Service Broadcasting), pan ddigwyddodd Martin glywed Lisa yn canu yn ei chegin! Roedd gig gyntaf y band yn Greenman yn 2005 gyda’r cais cyntaf am CD yn dod o Bonnie Prince Billy. Ers hynny, maen nhw wedi cydweithio gydag artistiaid o bob cwr o’r byd, wedi derbyn adolygiadau hynod ganmoliaethus ac wedi chwarae ar lwyfannau byd-eang, ond nad ydynt erioed wedi teithio’r albwm hwn!

Dyma ganeuon sy’n eich tywys i dirwedd Gogledd Cymru, yn llawn emosiwn wrth i galon ac enaid bob stori gael ei dinoethi drwy naratif cymhellol a chain y canu. Cyfuna lleisiau etheraidd a churiadau dub gyda’r delyn, gitâr, harmoniwm a threfniadau dawnus iawn.

£15 (£14)

Cool exquisite vocals dominate the album
The Guardian
Lisa Jen has a voice of mountain-brook purity
Metro
fragments of traditional Welsh music & contemporary tension
Drowned in Sound

Browse more shows tagged with:

Top