Back

Al Lewis: Te'n y Grug (Tea in the Heather)

Te yn y Grug yw albwm cysyniadol newydd y cerddor a’r canwr adnabyddus Al Lewis. Bydd Al yn dod â’r caneuon hyn i’r llwyfan yng Ngwanwyn 2020.

Wedi rhannu i ddwy ran: Bydd Al yn ystod y rhan gyntaf yn ymweld â'i ôl-gatalog drwy berfformio set acwstig unigol unigryw.

Yn yr ail ran bydd cerddorion eraill a chôr lleol yn ymuno ag Al i berfformio'r albwm Te yn y Grug yn ei gyfanrwydd.

Cafodd caneuon ‘Te yn y Grug’ eu perfformio gyntaf fel rhan o sioe agoriadol hynod lwyddiannus Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 2019.

Gwerthwyd pob tocyn i’r sioe o fewn ychydig oriau - y sioe a werthodd fwyaf cyflym yn hanes yr Eisteddfod.

Ysbrydolwyd y geiriau (a ysgrifennwyd gan Karen Owen a Cefin Roberts) gan y gyfrol o straeon (o’r un enw) gan yr awdures enwog Dr Kate Roberts- oedd yn dathlu 60 mlynedd ers ei chyhoeddiad cyntaf ym 1959.

Mae’r stori yn dilyn bywydau tair merch - Begw, Wini a Mair - â’u magwraeth yng Ngogledd Cymru ar droad yr 20fed ganrif. Mae’n stori gyfarwydd am golled, tlodi, crefydd, cymuned a pherthyn.

Cafodd yr albwm ei recordio dros gyfnod o 5 diwrnod yn stiwdio Sain yng Ngogledd Cymru ym mis Awst 2019 gydag amrywiaeth o artistiaid talentog. Bydd rhai o’r cerddorion yn ymuno ag Al ar y daith hon. Bydd corau lleol yn ymuno ag Al ar y llwyfan ym mhob un o’r perfformiadau arbennig hyn.

Bydd y band a chôr lleol, Côr Cywair yn ymuno ag Al ar y llwyfan.

Mewn partneriaeth â PYST

£12 (£10)

Browse more shows tagged with:

Top