Back

Aly Bain & Phil Cunningham

Aly Bain yw’r chwaraewr ffidl mwyaf adnabyddus a blaengar yn y traddodiad Celtaidd, a chaiff ei ystyried fel ffidlwr gorau’r Alban – o bosib y gorau erioed. Mae ei bartner cerddorol Phil Cunningham yn chwaraewr acordion a chyfansoddwr byd-eang enwog. Gyda’i gilydd, dyma’r cerddorion traddodiadol gorau byddwch erioed yn debygol o’u gweld.

Bwyty Dros Dro - Bwydlen tri cwrs ar gael cyn y sioe yma

Mae’n bleser gennym gyhoeddi cyfres o brydau gosod cyn sioeau penodol yn y Mwldan yn y misoedd nesaf. Bydd ‘The People Tree’, profiad bwyty sy’n cael ei redeg gan Emma a Sana, yn cynnig bwydlenni gosod tri chwrs cyn sioeau byw dethol a digwyddiadau darlledu.Bydd bwydlen tri chwrs sy’n cynnwys cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin yn £20, a bydd opsiynau i lysfwytawyr a feganiaid hefyd ar gael. 

Cliciwch yma am manylion pellach.

£16 (£15)

Browse more shows tagged with:

Top