Back

April in Paris

Mae’n bleser gan It’s An Act gyhoeddi mai cynhyrchiad hydref eleni fydd y comedi ddifyr ‘April In Paris’ a ysgrifennwyd gan John Godber, a chyfarwyddwyd gan Jack Llewellyn.

Mae’r ddrama gomedi ragorol hon yn cynnwys y cymeriadau Bet ac Al, sy’n arwain bywydau tawel, cyffredin yn eu cartref bach gwledig, hyd nes bod Bet yn ennill cystadleuaeth ‘Gwyliau Rhamantus’ mewn cylchgrawn. Eu gwobr, gwyliau ym Mharis, bydd eu profiad tramor cyntaf a chaiff effaith ddwys ar y ffordd maen nhw’n edrych ar y byd o’u cwmpas unwaith iddynt ddychwelyd adref. Maen nhw’n cecran dros goginiaeth Ffrengig, yn bodio’u llyfr ymadroddion yn frwd, ac yn hel ymaith mygwyr sy’n ceisio eu taclo ar y Metro yn y darluniad doniol hwn o Brydeinwyr tramor. 

£13 (£12)

Yn addas i oedran 12+

Browse more shows tagged with:

Top