Back

Catrin Finch & Seckou Keita benefit concert @ Dyfi Osprey Centre

Cynhyrchiad Theatr Mwldan

Catrin Finch & Seckou Keita (Cymru / Senegal)

 

NODWCH OS GWELWCH YN DDA - Gwerthwyd pob tocyn ar gyfer y digwyddiad hwn, ac yn anffodus ni fydd tocynnau ar gael wrth y drws.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi cyngerdd arbennig iawn i farcio rhyddhau SOAR, albwm newydd Catrin Finch a Seckou Keita.

Am un noson yn unig, bydd Catrin a Seckou yn perfformio ar gyfer cynulleidfa o 45 person yn yr Arsyllfa yng Nghanolfan Gweilch Dyfi ger Machynlleth yng Nghanolbarth Cymru. Mae hwn yn gyngerdd i godi arian a bydd yr holl elw a godir yn mynd tuag at Ganolfan Gweilch Dyfi i gefnogi gwaith Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn.

NODWCH OS GWELWCH YN DDA 

Mae 'na fynediad gwastad i'r arsyllfa o'r prif faes parcio ar hyd rhodfa bren (tua 5 munud o gerdded).

Mae lifft ar gael yn yr arsyllfa ar gyfer pobl â chanddynt symudedd cyfyngedig. 

£50
a sublime duo of two artists who are masters of their instruments...musicality and architecture at work
Simon Broughton, London Evening Standard
This, I suspect, will be remembered as one of the classic concerts of the year
Robin Denselow, The Guardian

Top