Back

Illyria: The Further Adventures of Doctor Dolittle

YN CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI

HYRWYDDIAD AR Y CYD GAN THEATR MWLDAN A CASTELL ABERTEIFI

 

Mae'n ddrwg gennym roi gwybod i chi bod Illyria wedi penderfynu canslo eu holl ddigwyddiadau haf fel mesur rhagofalus mewn ymateb i sefyllfa bresennol Covid-19. Mae hyn yn cynnwys eu digwyddiadau sydd wedi'u trefnu yng Nghastell Aberteifi dros yr haf.

Os ydych eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer un o'r digwyddiadau hyn bydd ein swyddfa docynnau yn cysylltu â chi er mwyn trefnu ad-daliad, neu nodyn credyd.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir.

 

gan Hugh Lofting

Wedi'i addasu gan Oliver Gray yn dilyn llwyddiant ysgubol taith 2018 o The Adventures of Doctor Dolittle, mae Illyria yn troi unwaith eto at straeon anhygoel Hugh Lofting i ddod ag addasiad cerddorol newydd sbon o anturiaethau PELLACH y Doctor gyda Jip y Ci, Dab Dab yr Hwyaden, Gub Gub y Mochyn a Polynesia y Parot. Ble yn y byd y byddan nhw'n mynd? A fyddant hyd yn oed yn aros yn y byd hwn?! Pa anifeiliaid newydd y byddan nhw'n eu helpu ar hyd y ffordd? A fydd gan y Llygod mawr arsylwadau miniog i'w gwneud o hyd? Ydy Gub Gub yn dal i freuddwydio am gacen? Fel yn ein cynhyrchiad yn 2018, mae The FURTHER Adventures of Doctor Dolittle yn cynnwys sgôr gerddorfaol lawn, pypedau anhygoel a llu o ganeuon y bydd ein cynulleidfaoedd yn eu canu am flynyddoedd i ddod.

£14 (£12)  

GWYBODAETH HANFODOL

Bydd gerddi’r Castell ar agor awr cyn amser cychwyn y perfformiad.

Dewch â’ch seddau cefn isel eich hun neu rygiau a dillad cynnes.

Bydd lluniaeth ar gael ar y safle yn y digwyddiadau hyn. Croeso i chi ddod â phicnic i’w fwynhau.   

Mae mynediad cadair olwyn i’r safle perfformio. Nid oes unrhyw barcio cyhoeddus ar y safle.

Caiff perfformiadau eu llwyfannu mewn pob tywydd ond y gwaethaf. Nid yw tocynnau’n ad-daladwy.

Theatr Mwldan yw’r unig fan lle cewch brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn. Gellir prynu tocynnau wrth y drws, ond mae hyn yn hollol ddibynnol ar argaeledd. Argymhellwn archebu tocynnau o flaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Am wybodaeth am y Castell galwch 01239 615131.

GWYBODAETH TOCYNNAU

Caiff eich tocyn ei sganio wrth y fynedfa ar gyfer y digwyddiadau hyn:

Derbyniwn docynnau go iawn (os wnaethoch brynu tocynnau mewn person o’r Mwldan) Gallwn sganio eich archeb ar eich ffôn symudol Gallwch ddod â’ch tocyn ‘printio gartref’ (PWYSIG – sicrhewch pan fyddwch yn printio eich tocynnau eich bod yn defnyddio’r ddolen ‘Click Here To Print Your Tickets’ sy’n cynnwys y codau QR, ac NID y ‘crynodeb tudalen’) Gallwch gasglu eich tocyn ar y noson

Bydd gan bob tocyn ar gyfer y digwyddiadau hyn god QR (fel cod bar) sy’n unigryw i’r unigolyn, a gellir ond ei ddefnyddio unwaith.

Sicrhewch eich bod yn gofalu am eich tocyn(nau) argraffu gartref fel unrhyw docyn arall. Mae gan bob tocyn cod QR unigryw y caiff ei sganio wrth y fynedfa i’r digwyddiad.

Os gwneir copïau o’r tocyn, dim ond y tocyn a ddefnyddir ar gyfer y sgan cyntaf o’r cod bar caiff fynediad.

Os ydyw’r cod bar unigryw eisoes wedi ei sganio, tynnir sylw’r gwasanaethydd a ni chaniateir mynediad. 

Browse more shows tagged with:

Top