Back

Korason: Kora Communion / Cymun Kora

SIOE WEDI EI CHANSLO

Mae'n ddrwg gennym eich hysbysu bod sioe Korason: Kora Communion / Cymun Kora ar 5 Mehefin wedi ei chanslo. Er ein bod yn disgwyl i hyn gael ei aildrefnu, nid oes gennym ddyddiad newydd ar gyfer y sioe ar hyn o bryd.

Bydd ein Swyddfa docynnau yn cysylltu â chi gan ebost os ydych eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn. 

*Cliciwch yma i weld ein Cwestiynau Cyffredin ynghylch ad-daliadau, credyd neu symud eich bwciad i'r dyddiad newydd: http://www.mwldan.co.uk/covid-19-statement-theatr-mwldan

Cyflwynwyd y ddeuawd o Gymru Josh Doughty (kora) a Tim Short (gitâr) i’w gilydd gan y chwaraewr Ngoni byd-enwog Bassekou Kouyaté yng ngŵyl du Niger yn Segou, Mali, yn ôl yn 2007.

Caiff Josh ei gydnabod yn eang fel un o'r chwaraewyr kora gorau nad yw'n hanu o Affrica, a chafodd ei gyflwyno i'r kora yn 14 oed pan gafodd ei fentora gan y pencampwr kora mawr ei barch o Mali, Toumani Diabaté, sy'n parhau i chwarae rhan frwd yn ei ddatblygiad. Mae galw mawr am sgiliau addysgu Josh, a chwaraeodd hefyd ar "Process", albwm Sampha a enillodd Gwobr Mercury 2017. Mae Tim yn aml-offerynnwr sydd wedi teithio a recordio ers dros 30 mlynedd, ac wedi chwarae gyda The Waterboys, Afro Cluster, Matuki a Joe Driscoll a Seckou.

Trwy eu cerddoriaeth, maen nhw’n talu teyrnged i draddodiadau gwych Mandinka yng Ngorllewin Affrica ochr yn ochr â chyfansoddiadau newydd eu hunain ac wedi ymddangos mewn nifer o wyliau yn y DU gan gynnwys WOMAD, Shambala, Boomtown, Kaya a Ffrinj Llangollen.

Mae'r cyngerdd hwn yn gymundeb rhwng cerddorion a gwrandawyr mewn mannau hynafol a chysegredig sydd wedi'u neilltuo i heddwch, cyfryngu a chytgord ers canrifoedd; cerddoriaeth kora a gitâr a fydd yn eich ysbrydoli a'ch hudo yn rhai o addoldai harddaf Cymru.

£12 (£10)

DIGWYDDIAD YN CYMRYD LLE YN EGLWYS Y SANTES FAIR

Browse more shows tagged with:

Top