Back

The Man Who Planted Trees

Mae Bugail Ffrengig yn mynd ati gyda’i gi i blannu fforest a thrawsffurfio tir anial, diffrwyth. Wrth i ryfel fynd rhagddo’n ffyrnig ar draws Ewrop, mae eu fforest ifanc yn cael ei bygwth. Mae’r addasiad theatraidd amlsynhwyraidd hwn o glasur amgylcheddol Jean Giono yn asiad unigryw o gomedi, pypedwaith ac adrodd stori gydag effeithiau synhwyraidd yn creu aroglau, gwynt a glaw. Mae’n stori ysbrydol a bythgofiadwy yn yr un mesur ag y mae’n sioe pypedau hynod ddifyr, mae The Man Who Planted Trees  yn dangos i ni'r gwahaniaeth y gall un dyn (a’i gi!) wneud i’r byd.

Mae’r addasiad hwn gan Puppet State Theatre, sydd wedi ennill llu o wobrau, wedi bod yn teithio ers 2006 i ysgolion, neuaddau pentref, theatrau a gwyliau ar draws y DU ac Iwerddon ac yn rhyngwladol i Malaysia, Bermuda yr UD, Canada, Seland Newydd ac Awstralia gan gynnwys perfformiadau ar Broadway a Theatr New Victory ac ymweliadau lluosog â Thŷ Opera Sydney a Sefydliad Lincoln Center Efrog Newydd.

£9.50 (£8.50)

Yn addas ar gyfer oedolion a phlant dros 7 mlwydd oed.

Browse more shows tagged with:

Top