Back

Mwldan Summer School - Imagine That / Dychmygwch y Peth!

Mae’n bleser gennym gyflwyno cyfres o gyrsiau a dosbarthiadau cyfranogol y celfyddydau perfformio ar gyfer ystodau oed cymysg yng ngwyliau’r haf 2018.

Dychmygwch y Peth!

The moment you doubt whether you can fly, you cease for ever to be able to do it.” Dyfyniad o Peter Pan gan J.M. Barrie.

Yn wir mae eich dychymyg yn nerthol ac yn brydferth, gan nad oes unrhyw reolau. Mae’r prosiect perfformio hwn yn ffantasi o’ch creadigaeth chi eich hun, yn ddi-ben-draw o ran pŵer eich meddwl; gall eich dychymyg eich tywys i unrhyw le.

Prosiect Perfformio ar gyfer pobl ifanc 12 i 16 oed, yn gweithio gyda chyfarwyddwr proffesiynol i ddatblygu sgiliau theatr, gan gloi gyda pherfformiad ar ddiwedd yr wythnos.

6 - 10 Awst 18

Sesiynau 10yb – 4yp

Dangosiad o’r gwaith am 4.30yp 10 Awst.

£60 y pen ar gyfer yr wythnos gyfan

Nodwch os gwelwch yn dda, gall yr ysgol haf ond rhedeg os bydd nifer digonol o bobl wedi cofrestru. Y dyddiad olaf ar gyfer cadw lle yw  dydd Mercher, 25ain o Orffennaf. 

Top