Back

MYNEDIAD AM DDIM / LOWRI EVANS @ Abaty Llandudoch / St Dogmaels Abbey

Diwrnod gwerin yn Abaty Llandudoch gyda un o grwpiau gwerin gorau Cymru ers dros 50 mlynedd - MYNEDIAD AM DDIM - a'r gantores o Drefdraeth, LOWRI EVANS.

Dewch i ymlacio a mwynhau mewn awyrgylch anffurfiol, a chroeso i chi ddod a bwyd a diod eich hunain ( bydd bar ar gael) i fwynhau prynhawn al ffresco yn Abaty Llandudoch.

 

MYNEDIAD AM DDIM 

Cafodd y grŵp ei sefydlu yn 1974, pan oedd yr aelodau i gyd yn fyfyrwyr yn Aberystwyth.  Maent wedi parhau i ganu a pherfformio ar hyd y blynyddoedd gan rhyddhau nifer o albyms ac ymddangos mewn gwyliau mawr ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. 

Mae Mynediad am Ddim yn gerddorion gwych. Maent yn canu amrywiaeth o ganeuon gwerin newydd, modern a thraddodiadol gan greu harmoniau grymus, cyffrous.  Yn gefndir i’r cyfan, mae llu o wahanol offerynnau sy’n creu sain llawn cynnwrf.

 

LOWRI EVANS 

Graddiodd Lowri gyda gradd mewn Jazz, a chanu poblogaidd a masnachol o Brifysgol Newcastle, ac ers hynny mae hi wedi bod yn cynhyrchu albyms a pherfformio’n gyson ar hyd a lled y wlad.  Daeth adref i Gymru yn 2003 ar ôl teithio am rai misoedd yn ne America ac, ers hynny, mae hi wedi ysgrifennu a pherfformio ei cherddoriaeth ei hunan.

Ers 2005 mae hi a’i phartner, Lee Mason, wedi cydweithio’n llwyddiannus fel deuawd gan ddatblygu dilyniant da.  Mae ganddynt dros ddegawd o brofiad ysgrifennu, recordio, cynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth gyda’i gilydd.  Mae’n gigio’n gyson, gan ymddangos yn aml ar Radio Cymru a Radio Wales, ac ar raglenni teledu. Mae ei llais unigryw yn hawlio sylw, ac mae ganddi bresenoldeb llwyfan cryf.

 

Hyrwyddir gan Abaty 900

£12.00 (Plant dan 12 am ddim)

Top