Back

Noel James: I'm Cerebral...Get Me Out of Here!

COMEDI YNG NGHASTELL ABERTEIFI 

Cyflwyna Noel James gyfuniad rhagorol o ffraethineb a chwarae ar eiriau. Mae ei themâu’n amrywiol - swyddi, Cymru, teulu, y Dyn Eliffant - tra bydd ei berfformiad egnïol, difyr yn siwr o adael y gynulleidfa a’i gwynt ei dwrn. Yn wreiddiol o Bontardawe, mireiniodd ei arddull gomig ar y sin comedi yn Llundain a nawr daw i Aberteifi fel dyn doniol blaenaf Cymru! Mae’n gobeithio gwneud i chi chwerthin yn ogystal ag ateb rhai o gwestiynau bywyd, cwestiynau fel….ble ma’ Pontardawe? (nesaf at Ynysmeudwy).    

Yn addas i 14+  

PERFFORMIAD YN YR IAITH SAESNEG   

Mae'r digwyddiad hwn yn rhan o'n Penwythnos o Gomedi 6-9 Gorffennaf

 

GWYBODAETH HANFODOL

Darperir seddau yn y digwyddiad hwn ar sail y cyntaf i’r felin.

Bydd mynediad ar gyfer pob un o’r digwyddiadau hyn trwy brif fynedfa’r castell. Bydd safle'r Castell ar agor o 5yh cyn sioeau comedi heno a bydd lluniaeth ar gael. Bydd y drysau yn agor hanner awr cyn i ddigwyddiad comedi gychwyn.

Nodir os gwelwch yn dda fod ‘na fynediad cadair olwyn i’r safle perfformio, ond nid oes unrhyw barcio cyhoeddus ar y safle. 

Darperir man eistedd i gwsmeriaid â ganddynt symudedd cyfyngedig - cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau 01239 621 200 am fanylion os oes angen hyn arnoch.

Mae’r digwyddiadau hyn o dan do, ond dewch â dillad cynnes priodol gyda chi.

Nodwch os gwelwch yn dda - yn y digwyddiad hwn caniateir bwyd a diod caiff ei brynu yn y castell yn unig. Bydd bar a bwyd ar gael ar y noson.

Theatr Mwldan yw’r unig fan lle cewch brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn. Gellir prynu tocynnau wrth y drws, ond mae hyn yn hollol ddibynnol ar argaeledd. Argymhellwn archebu tocynnau o flaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Ni fydd unrhyw ad-daliad am ddigwyddiadau yn y Castell. Cynhelir digwyddiadau ym mhob tywydd gan eithrio’r tywydd MWYAF garw.  

Gallwch ffonio 01239 615131 am wybodaeth bellach am y Castell.

 

GWYBODAETH TOCYNNAU

Caiff eich tocyn ei sganio wrth y fynedfa ar gyfer y digwyddiadau hyn:

  • Derbyniwn docynnau go iawn (os wnaethoch brynu tocynnau mewn person o’r Mwldan)
  • Gallwn sganio eich archeb ar eich ffôn symudol
  • Gallwch ddod â’ch tocyn ‘printio gartref’ (PWYSIG – sicrhewch pan fyddwch yn printio eich tocynnau eich bod yn defnyddio’r ddolen ‘Click Here To Print Your Tickets’ sy’n cynnwys y codau QR, ac NID y ‘crynodeb tudalen’)
  • Gallwch gasglu eich tocyn ar y noson

 

Bydd gan bob tocyn ar gyfer y digwyddiadau hyn god QR (fel cod bar) sy’n unigryw i’r unigolyn, a gellir ond ei ddefnyddio unwaith.

Sicrhewch eich bod yn gofalu am eich tocyn(nau) argraffu gartref fel unrhyw docyn arall. Mae gan bob tocyn cod QR unigryw y caiff ei sganio wrth y fynedfa i’r digwyddiad.

Os gwneir copïau o’r tocyn, dim ond y tocyn a ddefnyddir ar gyfer y sgan cyntaf o’r cod bar caiff fynediad.

Os ydyw’r cod bar unigryw eisoes wedi ei sganio, tynnir sylw’r gwasanaethydd a ni chaniateir mynediad. 

£10 (£9)

Browse more shows tagged with:

Top