Back

Rich Hall’s Hoedown

 

Ni fu amser gwell erioed i fod yn Americanwr yn y DU. Mae datgymalu celfydd Hall o’r berthynas rhwng y ddwy wlad mor gywir ag erioed. Mae ei raglenni dogfen i BBC Four a chyfres BBC Radio 4  ynghyd ag ymddangosiadau ar raglenni megis Have I Got News For You a QI  wedi crynhoi criw sylweddol o ddilynwyr iddo. Mae’r Hoedown yn cychwyn gyda dadelfeniad gwywol o America Trump, ond gorffenna gyda dathliad o Americana. Cewch amser gwych gyda baledau a chomedi ffwrdd a hi!

 

NODWCH OS GWELWCH YN DDA:

Mae ail-werthu tocynnau wedi ei wahardd a bydd yn golygu y caiff yr archeb ei ganslo.

14+(Cyfarwyddyd Rhieni) - tebygol o gynnwys rhegi a themâu oedolyn.

Yn unol â’n polisi arferol caiff defnyddio ffonau symudol neu gamerâu i recordio’r sioe ei wahardd. Gofynnir i unrhyw un sy’n cael ei ddal yn gwneud hynny i adael heb ad-daliad.

£17
… an evening spent in the company of this American hero is one of the most gratifying and (yes) joyful experiences to be had on the comedy circuit
The Independent

Browse more shows tagged with:

Top