Back

Seann Walsh: Same Again? (14+)

WEDI GOHIRIO

Mae'n ddrwg gennym eich hysbysu bod dyddiad sioe Seann Walsh: Same Again (14+) ar 12 Tachwedd bellach wedi'i ei ohirio.

Bydd ein Swyddfa docynnau yn cysylltu â chi gan ebost os ydych eisoes wedi prynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad hwn.

*Cliciwch yma i weld ein Cwestiynau Cyffredin ynghylch ad-daliadau, credyd neu symud eich bwciad i'r dyddiad newydd: http://www.mwldan.co.uk/covid-19-statement-theatr-mwldan

Seann Walsh: Same Again (14+)

Roedd Seann eisiau bod yn ddigrifwr stand-yp ers yn 10 oed. Yn y sioe hon, mae'n dweud wrthym sut y cyrhaeddodd yma, o dyfu i fyny yn Brighton i gasglu llu o gydnabyddiaethau teledu ac adolygiadau disglair, i ddod yn ddihiryn tabloid. Mae'r sioe ffres hon yn cymysgu rhai o'i rwtîns mwyaf poblogaidd gyda hanesion newydd di-flewyn-ar-dafod o'r ddeng mlynedd diwethaf.

Mae gan Seann lawer o gydnabyddiaethau actio gan gynnwys y gomedi Big Bad World  ar Comedy Central, y brif ran yn Monks (BBC One), Three Kinds of Stupid (Sky) a chomedi sefyllfa Jack Dee, Bad Move (ITV). Yn ogystal,  ysgrifennodd ac ymddangosodd yn ei raglen fer ei hun ar gyfer Sky Arts a arweiniodd at gynhyrchu, ysgrifennu ac ymddangos yn ei we-gyfres comedi mud ei hun, The Drunk. Mae Seann ar ei ffordd yn gyflym i fod yn un o actorion cymeriad comedi gorau'r DU.

Digwyddiad 14+ o ganlyniad i ddefnydd iaith gref.

Hugely funny…deliciously entertaining
The Times
He remains one of the most entertaining observational comics on the block
The Independent
A cracking good show
The Telegraph
Digwyddiad 14+ o ganlyniad i ddefnydd iaith gref.

Browse more shows tagged with:

Top