Back

As A Tiger In The Jungle

Gan Cirkus Xanti (Norwy) ac Ali Williams Productions (Cymru)Mae As a Tiger in the Jungle yn adrodd stori go iawn tri pherfformiwr o Nepal, wedi eu masnachu fel plant i syrcasau ac i fywyd o gaethwasiaeth. Gan ddefnyddio geiriau llafar; symudiad; syrcas a seremoni, maen nhw’n adrodd y stori am sut, yn erbyn pob disgwyl, wnaethant oroesi eu plentyndod a chreu eu tynged eu hunain, gan ddefnyddio’r sgiliau a ddysgwyd ganddynt mewn caethiwed mewn modd cadarnhaol a grymusol.  

Mae hwn yn gynhyrchiad rhyngwladol rhwng y cyfarwyddwr sydd wedi ennill gwobrau Sverre Waage, (Cirkus Xanti, Norway) a’r cynhyrchydd creadigol Ali Williams (cyd-sylfaenydd a chyn gyfarwyddwr artistig nofitstate, Cymru).

Mae'r sioe bwerus ac ingol hon yn cynrychioli partneriaeth gynhyrchu ryngwladol rhwng y Cyfarwyddwr Sverre Waage (Cirkus Xanti, Norwy) a'r cynhyrchydd creadigol Ali Williams (sylfaenydd nofitstate, Cymru). Mae’n asiad unigryw o berfformiad, syrcas a cherddoriaeth Asiaidd ac Ewropeaidd, wedi ei osod i sgôr gwreiddiol gan Per Zanussi.

Yn 2013 cafodd y Cynhyrchydd Ali Williams y fraint o dreulio blwyddyn yn gweithio fel y Cyfarwyddwr Creadigol gyda Circus Kathmandu, sef grŵp syrcas cyfoes wedi ei ffurfio o 13 o ddynion a menywod ifanc, oedd i gyd wedi goroesi cael eu masnachu fel plant. Aeth masnachwyr â nhw i syrcasau traddodiadol Indiaidd, gyda'r addewid o enwogrwydd a chyfle. Yn lle hynny, cam-fanteisiwyd ar y plant, a chawsant fywyd o gaethwasiaeth a chamdriniaeth mewn syrcasau a ddaeth yn garchardai iddynt.

"Rydym yn falch o fod wedi creu perfformiad ystyrlon a deniadol yn seiliedig ar straeon gwir am fywydau'r perfformwyr. Cefais fy ysbrydoli gan yr artistiaid ifanc o Circus Kathmandu ac rwy'n falch iawn o allu cyflogi Aman a Renu mewn dull proffesiynol a defnyddio'r sgiliau a ddysgwyd ganddynt mewn caethiwed mewn modd cadarnhaol a grymus. Mae hyn yn rhoi dilysrwydd ni chaiff ei weld yn aml ar y llwyfan heddiw i'r perfformiad hwn". Ali Williams 

Gwybodaeth gefndirol bellach

Rhwng 2004 a 2011 bu Philip Holmes (Sylfaenydd y partner elusen ChoraChori Nepal) yn arwain rhaglen yn Nepal a achubodd 700 o blant Nepali rhag syrcasau traddodiadol yn India a oedd yn cam-drin ac yn cam-fanteisio arnynt. Rhyddhaodd ei dîm hanner y caethweision ifanc hyn drwy weithrediadau achub uniongyrchol peryglus a drefnwyd ar y cyd gydag awdurdodau Indiaidd a'r heddlu. Rhyddhaodd y syrcasau yr hanner arall yn wirfoddol er mwyn osgoi'r cyhoeddusrwydd negyddol a'r risg o erlyniad oedd yn mynd law yn llaw â chyrchoedd proffil uchel.Ar ôl iddynt gael eu dychwelyd adref, dechreuodd yr ieuengaf ohonynt yn yr ysgol. Fodd bynnag, roedd gan y rhai hŷn a ddychwelodd fwy o ddiddordeb mewn hyfforddiant galwedigaethol ac mewn dod o hyd i waith cyn gynted ag y bo modd. Darparodd tîm Philip amrywiaeth o opsiynau a oedd yn cynnwys rhywfaint o feddwl gwreiddiol, gyda’r meddwl mwyaf creadigol yn cynnwys sefydlu grŵp syrcas cyfoes o'r enw Circus Kathmandu. Roedd y fenter hon yn caniatáu i'r rhai a ddychwelodd i ddefnyddio'r sgiliau a oedd ganddynt eisoes ac i wynebu eu hofnau o'r gorffennol. Trwy Circus Kathmandu, roeddent yn gallu teithio'n rhyngwladol a darganfod yr enwogrwydd a addawyd iddynt gan y masnachwyr.

Mae Philip Holmes yn parhau gyda’r gwaith o achub plant drwy'r elusen blant gofrestredig ChoraChori ( www.chorachori.org.uk ) sef y partner elusen ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Ar hyn o bryd mae tîm Philip yn achub plant Nepalaidd o "llochesau plant" Dickensaidd ar gyfer plant sydd wedi'u dadleoli yn India. O fis Hydref 2017 bydd ChoraChori yn dechrau achub merched Nepali o buteindai yn India. Rhowch gyfraniad tuag at ein rhaglen achub unigryw trwy'r ddolen hon: http://bit.ly/2n54ZDh Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Philip ar Philip@chorachori.org.uk

Ariennir y sioe gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Norwy, FFUK, SPENN, Gweinyddiaeth Materion Tramor Norwy, Danse og Teatersentrum, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Fond for Lyd og Bilde.

£12 (£10) (£8 plant

'As a Tiger in the Jungle' is likely to have an unforgettable life-long profound effect on you
Theatre reviews
'As A Tiger in the Jungle' is a brave, sad, and beautifully staged production that shines with an inner fire
Circus Diaries
Yn addas ar gyfer bawb sy'n 8+ oed

Browse more shows tagged with:

Top