Back

Mountain (PG)

Jennifer Peedom | 2017 | Australia | 74’

Mae Mountain yn ffilm nodedig, fel arbrawf sinematig rhyfeddol ac fel ffilm ddogfen fewnweledol, wedi ei lleisio gan William Dafoe. Mae’n canolbwyntio ein sylw ar nid un  mynydd yn benodol, ond y mynydd fel testun bras, ein diddordeb ynddo fel bodau dynol, ac ysblander ei fodolaeth. Bydd golygfeydd godidog, seiniau trawiadol cerddorfa glasurol a llais Dafoe yn ein tywys ar siwrnai i rwysg, hanes a’n hangen i’w gorchfygu, o archwilio a chreu mapiau i chwaraeon eithafol a champau hynod fentrus.

£7.30 (£5.50)
IS-DEITLAU

Top