Back

The Road To Mandalay (15)

Midi Z | 2016 | Myanmar | 108’

Yn y ddrama ddiddorol hon, mae pâr ifanc o Byrma yn darganfod nad man gwyn yw man draw ar ôl iddynt gael eu smyglo i mewn i Wlad y Thai er mwyn chwilio am waith. Mae eu rhamant betrus, felys yn gweithredu fel cyferbyniad effeithiol i’r realiti ingol, sef llwgrwobrwyaeth yr heddlu, swyddogion barus, a chyffuriau a’r diwydiant rhyw fel opsiynau terfynol. Stori am yr oes fodern lle nad yw cariad pob amser yn trechu.

£7.30 (£5.50)
IS-DEITLAU

Top