Back

Catrin Finch & Seckou Keita (Cymru / Senegal)

Cyd-gynhyrchiad Theatr Mwldan | Astar Artes 

 

"intricate, ethereal and entrancing, an elaborate pas-de-deux... remarkable"

Neil Spencer, Uncut Magazine

 

Mae’r prosiect llwyddiannus hwn yn parhau i gyfareddu a gwefreiddio cynulleidfaoedd ar draws y byd.

 

Mae e wedi bod yn flwyddyn ryfeddol i’r delynores Gymreig, Catrin Finch, a’r chwaraewr kora o Senegal, Seckou Keita, gyda llu o wobrau ac enwebiadau, gan gynnwys Enillwyr Albwm y Flwyddyn Cylchgrawn fRoots gyda’u halbwm cyntaf Clychau Dibon.  Yn wir, ymddengys nid oes terfyn ar orchestion y pâr meistrolgar hwn.

 

Mae gan y delyn safle canolog yn niwylliant hynod gyfoethog Gorllewin Affrica a Chymru, ac yn rhyfeddol, mae’r ddwy wlad yn rhannau traddodiad barddonol hynafol o hanesion llafar cain, wedi eu mynegi trwy gerddoriaeth, cân a phennill.

 

Bydd Catrin a Seckou yn chwarae dyddiadau a gwyliau penodol trwy gydol 2015, ewch at wefan y prosiect am fanylion pellach o’u dyddiadau a digwyddiadau yn 2015, neu i archebu copi o’u halbwm sydd wedi ennill gwobrau, sef Clychau Dibon: www.catrinfinchandseckoukeita.com

 

Oes gennych ddiddordeb mewn trefnu bod y prosiect hwn yn dod i’ch gŵyl neu ganolfan? Cysylltwch â  dilwyn@mwldan.co.uk

 

Ar daith yn 2015:

 

Chwefror

1    Celtic Connections, Glasgow YR ALBAN

 

Mawrth

31   Stadsschouwburg, Nijmegen, NETHERLANDS

 

Ebrill

1    30CC, Leuven BELGIUM

2    Cultuurcentrum Ter Vesten, Beveren, BELGIUM

3    CC Leopoldsburg, Leopoldsburg, BELGIUM

4    CC Belgica, Dendermonde, BELGIUM

 

Mai

29   Hay Festival, Hay-On-Wye CYMRU

 

Mehefin

11   Poznan Etnoport, POLAND

 

Awst

29   Sommerton Festival, YR ALMAEN

31   Shrewsbury Folk Festival, Shrewsbury LLOEGR 

 

Rhagfyr

4     Howard Assembly Rooms, LEEDS

 

Wedi ei noddi’n rhannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a’r Llywodraeth Cymru, a’r Gyngor Celfyddydau Lloegr.

 

Browse more shows tagged with:

Top