Back

CEGIN CERI

Cyd-Gynhyrchiad Ceri Rhys Matthews / Theatr Mwldan

 

Wedi’u hysbrydoli gan ryfeddodau cudd cerddoriaeth draddodiadol, tirwedd a iaith o Gymru a thu hwnt, mae Cegin Ceri yn gyfres newydd a gynhyrchir gan Ceri Rhys Matthews a Theatr Mwldan, rhaglen gyson o gerddoraieth a thrafodaeth sy’n bwriadu mynychu’r gwagle rhwng yr anhygoel a’r sefydledig, y diogel a’r peryglus, yr adnabyddus a’r estron. Ymhob digwyddia, bydd Ceri, y gynulleidfa a gwesteion arbennig yn rhannu cerddoriaeth fyw a thaith sgyrsiol o ddarganfod i fyd hynod o gyfoethog – ychydig fel eistedd yn y gegin gyda theulu a ffrindiau, ond yn Theatr Mwldan! Os oeddech chi wastad wedi bod eisiau palu’n ddyfnach i beth sydd y tu ôl i gerddoriaeth, traddodiad a threftadaeth, dewch i ymweld â Chegin Ceri! Mae cerddoriaeth Ceri Rhys Matthews (ar y bagbib, ffliwt a gitât) wedi bod ers sawl blwyddyn yn llawn o ddylanwadau traddodiadau gwledig a threfol cerddoriaeth annibynnol, oddi mewn a thu allan i fandiau teithiol sy’n recordio megis Fernhill. Yn ystod y blynyddoedd diweddar, bu Ceri’n rhannol gyfrifol (yn fwy nag unhryw unigolyn arall) am ddatguddio sawl trysor cuddiedig o gerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru a dod â nhw at sylw cyhoeddus ehangach, o fewn Cymru a’n rhyngwladol.

 

10 performiad yn Theatr Mwldan

Browse more shows tagged with:

Top