Back

Sut i Archebu

Archebu Tocynnau Ar-Lein

Archebwch ar lein o flaen llaw gyda'ch cerdyn credyd neu debyd, 24 awr y dydd.  Defnyddiwch ein tudalennau Beth Sy' Ymlaen i ffeindio'r digwyddiad yr ydych eisiau a dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.  Gallwch weld y cynllun eistedd ac mi fydd y system archebu ar-lein yn cynnig i chi'r seddi gorau ar gyfer y sioe neu dangosiad.  Pan caiff taliad ei gadarnhau, fe dderbynwch e-bost yn cynnwys rhif archeb unigryw sydd yn gadarnhad bod eich tocynnau wedi cael ei archebu.  Fe allwch naill ai argraffu'r e-bost neu ysgrifennu'r rhif archeb i lawr a'i ddangos i ni pan gasglwch chi'r docynnau o'r Swyddfa Docynnau yn ogystal a rhoi eich enw a'ch cyfeiriad a phrawf o statws / oedran / ID myfyriwr ayb. ar gyfer gostyngiadau.

Noder. Os oes gennych gais arbennig, er enghraifft mynediad cadair olwyn, galwch y Swyddfa Docynnau ar 01239 621200 gyda'ch cais (Oriau Agor y Swyddfa Docynnau - 10yb - 8yh yn ddyddiol).  Archebu ar-lein i ddigwyddiadau yn cau o fewn 10 munud o amser cychwyn sioe.  

Archebu Dros Y Ffon ar 01239 621200 10yb - 8yh yn ddyddiol

Fe allwch dal siarad a pherson go iawn! Gallwn prosesu taliad dros y ffon drwy ddefnyddio'ch cerdyn credyd neu debyd.  Mae gennym gwasanaeth ffon ateb y tu allan i oriau swyddfa ac yn ystod cyfnodau brysur lle nid oes neb ar gael i ateb eich galwad.  Os cewch chi'r ffon ateb, gadewch neges gyda'ch enw a rhif ffon ac fe fyddwn yn galw chi nol.  

Os ydych yn teithio pellter i ddod i'r Mwldan, peidiwch gadael tan ein bod ni wedi'ch galw chi yn ol a cadarnhau bod eich seddi ar gael. 

 

Archebu gyda Ffon Clyfar

Fe allwch nawr archebu a thalu am eich tocynnau drwy ddefnyddio'ch ffon symudol drwy ymweld a'n gwefan ar eich ffon.  Fe allwch ddefnyddio'r cyfeirnod archeb ar eich ffon i gael mynediad ar y drws i'r ddigwyddiad yr ydych wedi archebu ar ei gyfer. 

 

Archebu Mewn Person

Archebwch mewn person at ddesg flaen Theatr Mwldan.  Arian parod, siec, cerdyn debyd/credyd yn cael ei dderbyn. 

Archebu Drwy Post

Pan yn archebu trwy post, fe allwch ffonio i gwneud eich archeb yn gyntaf.  Taler gyda siec (yn daladwy i Theatr Mwldan) ac amgáu nodyn gyda'ch enw, cyfeiriad, rhif ffon, faint o docynnau sydd ei hangen arnoch, ac enw'r digwyddiad yn cynnwys y dyddiad a'r amser yr ydych eisiau archebu ar ei cyfer.  Amgaewch os gwelwch yn dda amlen gyda stamp a chyfeiriad os ydych am i ni postio'ch tocynnau i chi.  

Cyfeiriad Post:

Theatr Mwldan
Heol Clos Y Bath
Aberteifi
SA43 1JY

 
Top
S