Back

Chris Nurse: ffffffffffffffffffff... @ Oriel Mwldan

Mae Chris Nurse yn defnyddio amrywiaeth o gyfryngau gan gynnwys peintio, gwneud printiau a gwneud eitemau. Astudiodd yn yr Ysgol Ganolog Celf, yr RCA a’r Ysgol Brydeinig yn Rhufain ac mae’n Uwch-ddarlithydd mewn Paentio a Gwneud Printiau ym Mhrifysgol Morgannwg. Mae’n paentio o gasgliadau o eitemau mae’n dod o hyd iddynt sy’n debyg i’r modelau gan bobl nad ydynt yn artistiaid, plant ac amaturiaid. Teitl yr arddangosfa, ffffffffffffff… yw’r sain o sŵn gwyn o dechnoleg analog wedi tiwnio allan; gwacter rhwng sianeli.

“Mae diddordeb gennyf mewn portreadu’r gofod rhwng ffantasi a realiti cyffredin, rhwng delfryd a ddychmygir a’r hyn sy’n cael ei wireddu mewn gwirionedd trwy ddeunyddiau wrth gefn neu ddiffygion sgil. Gallech feddwl amdano fel y gwahaniaeth rhwng hunanddelwedd a sut mae eraill yn ein gweld. Mae fy ngwaith yn cysylltu â thraddodiad vanitas o fewn celf, lle mae balchder mewn dysgu a chyfoeth yn cael eu dangos fel pethau ofer yn wyneb natur anochel marwolaeth. Rwyf wedi bod yn tynnu llyfr o 1900 ar led, Celebrities of the British Army, ac yn paentio o strwythurau a grëwyd o’r tudalennau. Mae gan y llyfr bathos enbyd gan ni fydd y wynebau barfog  hyn a’r tiwnigau coch yn unrhyw wrthwynebiad i ddigwyddiadau 14 mlynedd yn ddiweddarach."

 

Browse more shows tagged with:

Top