Back

TINARIWEN (Mali) + JUSTIN ADAMS & JULDEH CAMARA

Cyd-Gynhyrchiad Theatr Mwldan | Pontardawe Arts Centre | Push4 | Taliesin Arts Centre 

 

Ar Daith: 20 – 21 May 2008

 

Ymddangosodd Tinariwen o anialwch y Sahara yn 2002, ac ers hynny maent wedi cipio sylw edmygwyr cerddoriaeth byd a roc, wedi gwneud cryn argraff ar y siartiau albwm, wedi creu storm o gymeradwyaeth feirniadol ac wedi llwyfannu perfformiadau byw disglair. Mae eu gitarau electrig swynol, rhythmau tonnog a’u sain sych fel yr anialwch yn creu profiad cerddorol aruthrol. Mae casglu edmygwyr enwog, o Robert Plant i Thom Yorke o Radiohead, yn ogystal â chefnogi The Rolling Stones, wedi llwyddo i ddyrchafu eu statws fel sêr roc yn uwch o lawer, ac mae albymau diweddar wedi derbyn adolygiadau pedair a phum seren yn y wasg roc ac yn y cyfryngau rhyngwladol. Mae gan Justin Adams, sef ateb y DU i Ry Cooder, wybodaeth heb ei ail o’r blues ac o arddulliau Affricanaidd. Mae wedi cyd-gyfansoddi Mighty Rearranger gan Robert Plant, ac wedi cynhyrchu dau o albymau Tinariwen. Yn ymuno ag Adams fydd Juldeh Camara, griot o’r Gambia a phrif gerddor sy’n chwarae’r ritti, ffidil ag iddi un llinyn. Caiff rhythmau perlewyg dwfn a hynafol eu cyfuno â chlecian trydanol roc a rol a blues yr anialwch. 

 
 
"thrillingly unlike anything else on the planet." Q Magazine 
 
"exhilarating" The Guardian 
 
“the most exciting guitar band I’ve heard in a long time…” The Sunday Times 
 
“Awesome! This is SENSATIONAL! Tinariwen are the masters of roll’n’roll.” Andy Kershaw, BBC Radio 
 

Ar Daith i:

Pontardawe Arts Centre

The Point, Cardiff

 

Browse more shows tagged with:

Top