Back

CATRIN FINCH:TIDES

Cyd-Gynhyrchiad Theatr Mwldan | Acapela

 

Mae gan Catrin Finch, y delynores glodfawr o Gymru, yrfa glasurol ryngwladol llwyddiannus, ac mae wedi rhoi datganiadau ac wedi chwarae gyda cherddorfeydd ar draws y byd.
 
Ond mae taith 2015 Catrin yn marcio cyfnod cyffrous newydd yn ei gyrfa gerddorol ryfeddol; mae’n cyd-fynd â lansiad ei halbwm newydd Tides, a hefyd yn marcio’r tro cyntaf mae ei deunydd ei hun yn ymddangos fel corff o waith ar y llwyfan ac ar record. Mae’n datgelu gwedd newydd ar artist eithriadol, wedi ei gyrru i archwilio posibiliadau’r Delyn ac oes o ddylanwadau cerddorol. Bydd Catrin yn canu’r delyn a’r piano a bydd adran linynnol a llu o gerddorion gwadd yn ymuno â hi’n fyw ar y llwyfan i gyflwyno’i halbwm newydd.
 
Disgwyliwch siwrnai gerddorol hardd gan gerddor aruthrol sydd ar flaen ei chelfyddyd nodedig. 

 

Ar DAITH MAI 2015

21  Theatr Mwldan, ABERTEIFI

22  Aberystwyth Arts Centre ABERYSTWYTH

23  Neuadd Dwyfor, PWLLHELI

24  Stiwt, RHOSLLANNERCHRUGOG

25  Torch Theatre, ABERDAUGLEDDAU

 

TAITH HYDREF 2015

9  St Georges, BRISTOL

11 Taliesin, SWANSEA

13  Newbridge Memo, NEWBRIDGE

14 Theatr Brycheiniog, BRECON

15 The Hafren, NEWTOWN

16 RWCMD, CARDIFF  

 

 

£15 (£14)

Browse more shows tagged with:

Top