Back

SECKOU KEITA: 22 STRINGS

Cyd-Gynhyrchiad Theatr Mwldan | Seckou Keita | Sasolo Ltd

Gyda cymorth gan Gwyneth Glyn

 

Yn dilyn llwyddiant ysgubol ei brosiect cydweithredol gyda’r delynores Gymreig Catrin Finch, bydd y chwaraewr kora rhyfeddol o Senegal, Seckou Keita, yn mentro ar ei ben ei hun yn 2015 gydag albwm unigol a thaith unigol o amgylch Prydain. Mae Seckou yn fath anghyffredin o gerddor, yn draddodiadol ond hefyd yn gwthio ffiniau ei gelf. Yn wir feistr ar y kora - telyn 21 tant o Orllewin Affrica - roedd Seckou yn rhyfeddod ers oed cynnar, wedi ei eni i linell o griots a brenhinoedd. Mae wedi perfformio’n rhyngwladol ers 1996, gan ennill canmoliaeth fyd-eang am ei chwarae kora ac ymddangos gyda llu o artistiaid enwog megis Salif Keita ac Yossou N’Dour.

Aeth ei ddau albwm unigol diwethaf i frig siartiau cerddoriaeth byd Ewrop, ac enillodd ei albwm cydweithredol Clychau Dibon wobr Albwm y Flwyddyn fRoots ymhlith gwobrau eraill. Erbyn hyn mae’n ddiau mai Seckou Keita yw’r chwaraewr kora mwyaf dylanwadol ac ysbrydoledig ei genhedlaeth, yn gerddor eithriadol gyda charisma hyfryd ar y llwyfan. Bydd y daith ddiweddaraf hon yn archwilio’r hyn ydyw i fod yn ddinesydd byd-eang, ond eto byw gyda saith canrif o draddodiad ac etifeddiaeth wedi eu mynegi trwy gerddoriaeth.

Yn ymuno â Seckou fydd Gwyneth Glyn. Yn fardd, ysgrifenwraig a chantores, mae Gwyneth, sy’n dod o ardal Griccieth, yn archwilio ei hetifeddiaeth werin yn ei mamiaith.

 

AR DAITH:

 

MAI 2015

12  Theatr Mwldan, ABERTEIFI

14  RWCMD, CAERDYDD

15  Wyeside Arts Centre, LLANFAIR YM MUALLT

16  Y Tabernacl, MACHYNLLETH

17  Taliesin Arts Centre, ABERTAWE

 

MEDI 2015

26   Ropetackle, SHOREHAM

 

HYDREF 2015


2    Galeri, CAERNARFON

3    The Met, BURY

4    Derby Folk Festival, DERBY

   Harp On Wight Festival, Ryde, ISLE OF WIGHT

9    Afrikaba Festival, Hastings Museum & Arts Gallery, HASTINGS

10    Mac, BIRMINGHAM

15    The Lighthouse, DEAL

16    Colchester Arts Centre, COLCHESTER

17    The Flavel, DARTMOUTH

22    The David Hall, SOUTH PETHERTON

24    The Hothouse, More Music MORECAMBE

25    Sage GATESHEAD

30    Tolbooth, STIRLING

31    Mareel, LERWICK, SHETLAND


 

TACHWEDD 2015

17    Richmix, EFG LONDON JAZZ FESTIVAL

18    Gloucester Guildhall, GLOUCESTER
 

Wedi ei noddi’n rhannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru, a’r Loteri Genedlaethol, a'r Gyngor Celfyddydau Lloegr.

 

Ffotograffwyr:

Seckou Keita: Andy Morgan

Gwyneth Glyn: Dewi Glyn Jones

 

Browse more shows tagged with:

Top