Dreams Dance School: Peter Pan

Bydd Ysgol Ddawns Dreams yn eich tywys ar siwrnai hudol pan fydd Peter Pan yn cyfarfod â phlant y teulu Darling a mynd â nhw i ymweld â’r atgas Capten Hook yn Neverland. Yn y byd hudol bydd bechgyn coll, môr-forynion, tylwyth teg ac Indiaid yn eich helpu i ddod o hyd i’r gân yn eich calon a bydd Capten Hook yn eich helpu i ddarganfod y curiad yn eich traed.

Mae’r gymysgedd eclectig o arddulliau dawns a cherddoriaeth o Frank Sinatra i Flo Rida yn darparu rhywbeth at ddant pawb yn y sioe gyfareddol hon. Wedi ei choreograffu a’i haddysgu gan Victoria Atkinson, Pennaeth Ysgol Ddawns Dreams, sydd â’i chanolfan yn Theatr Mwldan, gyda cherddoriaeth fyw gan Katina Andreou, caiff ei pherfformio gan ensembles lleol Cwm Cerwyn. 

£8.50 (£7.50) £5 Plant

Browse more shows tagged with: