Swallows And Amazons (PG)

 

Philippa Lowthorpe, UK, 2016, 97’

 

Wedi addasu mewn modd celfydd a ffyddlon ar gyfer y sgrin fawr, dyma i chi wledd i blant ac oedolion. Wrth fwynhau gwyliau yn Ardal y Llynnoedd yn y 1920au, mae pedwar plentyn yn hwylio i ynys gyfagos yn eu cwch, Swallow. Cyn hir sylweddolant fod yr ynys yn diriogaeth i ddwy ferch arall, gyda chwch o’r enw Amazon. Yn llawn manylion hyfryd yr oes, daw’r stori ddelfrydol hon a holl gyffro a chyfeillgarwch llyfr Arthur Ransome yn fyw gyda ffraethineb a hiwmor.

DDANGOSIADAU GYDA ISDEITLAU:

Dydd Iau 25 Awst @ 5.50yh

£7.10 (£5.40)
Audio DescriptionSub Titles