Amy Wadge & Luke Jackson

Uniad o ddwy genhedlaeth o gantorion ac ysgrifenwyr caneuon cyfareddol, Amy Wadge a Luke Jackson, yn teithio gyda’i gilydd ar draws y DU.

Ystyrir yr enillydd Grammy Amy Wadge yn un o gantorion/ysgrifenwyr caneuon benywaidd mwyaf llwyddiannus y wlad. Gyda pum albwm unigol, dau cydweithrediad, cyfansoddiadau niferus i artistiaid eraill a channoedd o berfformiadau byw dros y byd i gyd, mae wedi sefydlu corff o waith ragorol. Mae ei llais yn hollol aruthrol gydag ystod ryfeddol ac effaith emosiynol tra bod ei hysgrifennu caneuon yn parhau i ragori ar y rhan fwyaf o’i chyfoeswyr.

Yn ddiweddar mae wedi ysgrifennu caneuon gyda nifer o ysgrifenwyr caneuon sydd ar eu hanterth, gan gynnwys Ed Sheeran, a rhyddhaodd EP, “Songs I Wrote With Amy”. Cafodd “Thinking Out Loud” record sengl lwyddiannus fyd-eang Ed, ei chyd-ysgrifennu gydag Amy gan ddod â rhagor o glod beirniadol o gynulleidfa ehangach, ynghyd ag ennill Grammy iddi a dod ag enwebiadau BRIT i’w rhan.

www.amywadge.com 

Mae Luke Jackson o Gaergaint, Swydd Gaint, yn gantor/ysgrifennwr caneuon ar ei anterth ac yn 2013 cafodd ei enwebu ar gyfer Gwobr Horizon Talent Newydd Gorau a Gwobr Werin Ifanc BBC Radio 2 ac yn 2014 cafodd ei enwi’n “Artist Gwrywaidd y Flwyddyn” Fatea.

Gyda llais cryf, trawiadol a sgiliau gitâr celfydd, mae Luke Jackson yn berfformiwr hyderus a chyfareddol sy'n arddangos aeddfedrwydd hynod. Bu’n creu enw iddo’i hun ar y sîn acwstig byw trwy gefnogi sêr megis Show of Hands, Karine Polwart, Oysterband a Martyn Joseph ac mae wedi cyflwyno perfformiadau syfrdanol ar y sin gwyliau yn y DU, o Gaergrawnt i Sidmouth a’r Wŷl Werin Brydeinig Fawr. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Luke wedi bod yn chwarae yng Ngwyliau ar draws Ewrop, ynghyd â chwarae sioe unigol yn yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, y Swistir a’r Almaen.

Bydd Luke yn rhyddhau ei albwm stiwdio newydd sbon “Tall Tales and Rumours” yn hydref 2016 ac yn ôl Cylchgrawn Acoustic, mae’n “etifedd teilwng i debyg Richard Thompson a Martin Simpson”. Gyda chyfoeth o ganeuon naratif cain, mae ei albwm-mini, “This Family Tree” yn pwysleisio'r aeddfedrwydd eithriadol a natur amryddawn un o’r cantorion/ysgrifenwyr caneuon a pherfformwyr byw mwyaf cyffrous ar y sîn!

www.lukepauljackson.com

£13 (£11)
A great singer, a great songwriter and a really commanding presence…..I watch everything this young chap does with a considerable amount of interest and an equal measure of amazement.
MIKE HARDING
Luke has a voice you could get lost in. He has a musical maturity and a songwriting ability that belies his years. His roots may be firmly within folk music but his exuberant stage performance suggests emerging rock star!
LONDON LIFE
Luke has already acquired both an unmistakable voice and a strikingly individual vision, so has a tremendous head start on the competition
fRoots
Reminds me of Jeff Buckley, which can only be a good thing
MARK RADCLIFFE, BBC RADIO 2
Two words, bloody brilliant
MAVERICK
The new Joni Mitchell, with her distinctive voice and well-crafted songs
LONDON EVENING STANDARD
An irresistible, riveting performer
BOB HARRIS, BBC RADIO 2
Amy is a ray of light one moment, shot through with sorrow the next. Her voice is amazing and it's suddenly clear why she's getting so much recognition
BIG ISSUE

Browse more shows tagged with: