Gŵyl Fawr Aberteifi:EISTEDDFOD

Bydd y cystadlaethau’n dechrau o ddifri yn y Theatr am 5.00yh ar y Nos Wener ac am 1yp ar y Dydd Sadwrn gyda sesiwn yr hwyr yn dechrau am 6.yh. Mae cystadlaethau nos Wener yn cynnwys canu, llefaru a dawnsio gyda Seremoni Cadeirio’r Bardd am 8yh. Nos Sadwrn yw noson y prif gystadlaethau corawl gan gynnwys y Corau Ieuenctid, Corau Merched, Corau Cymysg a Chorau Meibion. Ar ddiwedd y noson bydd y beirniaid yn dewis enillydd Côr yr Ŵyl o blith enillwyr y pedair categori corawl. Daw’r cystadlu i ben gyda chystadleuaeth Y Rhuban Glas i unawdwyr dros 25 oed.

Bydd chyfieithydd ar y pryd i drosi i’r Saesneg. 

 

AMDAN YR ŴYL 

Gŵyl ddiwylliannol Gymraeg flynyddol tref Aberteifi yw’r  Ŵyl Fawr - wythnos lawn o weithgaredd yn cynnwys cerddoriaeth, barddoniaeth a dawns.

Sefydlwyd yr Ŵyl yn 1952 fel Eisteddfod lled-genedlaethol – man canol rhwng Eisteddfodau bach lleol a’r Eisteddfod Genedlaethol. Yn 2017 cynhelir yr Ŵyl yn Theatr Mwldan a Chastell Aberteifi.

Mae’r Ŵyl yn dechrau ddydd Sadwrn gyda Seremoni Gyhoeddi yng Nghastell Aberteifi . Nos Fawrth a Nos Iau ceir cyfle i weld talent lleol ar ei orau gyda pherfformiad o sioe gerdd Gymraeg gan griw CICA sef plant a phobl ifanc y cylch. Nos Fercher daw beirdd at ei gilydd yng Nghastell Aberteifi i gystadlu yn Nhalwrn y Beirdd. Nos Wener a dydd Sadwrn daw cystadleuwyr o bell ac agos i gystadlu yn yr Eisteddfod sydd yn cynnwys cystadlaethau cerdd, llefaru a dawns - mae’r uchafbwyntiau yn cynnwys seremoni cadeirio’r Bardd a chystadleuaeth y Rhuban Glas i brif unawdwyr yr Ŵyl.

Daw’r Ŵyl i ben ddydd Sul gyda oedfa boreol am 10yb yn Y Tabernacl, a Chyngerdd Cloi’r Ŵyl gyda’r nos.  

gwylfawraberteifi.com

£6 nos Wener a Dydd Sadwrn; £8 nos Sadwrn

Browse more shows tagged with: