Back

A Night With The Stars / Noson Gyda'r Sêr

YN CYMRYD LLE YNG NGHASTELL ABERTEIFI   

Noson unigryw yng Nghastell Aberteifi - yng nghwmni grŵp serol o unawdwyr blaenaf Cymru. Yn serennu Rhydian Roberts y bariton Cymreig ar frig y siartiau gydag albwm platinwm dwbl, Claire Jones y seren cyngerdd rhyngwladol a chyn-delynores Frenhinol, Gwawr Edwards y soprano opera, tenor opera Llais Cymru Trystan Llŷr Griffiths a Chris Marshall y cyfansoddwr, trefnwr a’r offerynnwr taro, ynghyd â gwesteion arbennig Ensemble Telyn a Chôr Ieuenctid America ac Ysgol Telynau Rhyngwladol Claire Jones.
 
Cewch brofi amrywiaeth o ffefrynnau enwog o fyd ffilm, cerddoriaeth boblogaidd a chlasurol, yn ogystal â ffefrynnau Cymreig traddodiadol.

 

GWYBODAETH HANFOFOL   

Ni ddarperir unrhyw seddau yn y digwyddiad hwn, bydd croeso i chi ddod â’ch seddau gwersylla chi eich hun. 

Nodir os gwelwch yn dda fod ‘na fynediad cadair olwyn i’r safle perfformio, ond nid oes unrhyw barcio cyhoeddus ar y safle. 

Bydd mynediad ar gyfer pob un o’r digwyddiadau hyn trwy brif fynedfa’r castell. Bydd y brif act yn gorffen erbyn 11yh.

Darperir man eistedd i gwsmeriaid â ganddynt symudedd cyfyngedig - cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau 01239 621 200 am fanylion os oes angen hyn arnoch.

Digwyddiad awyr agored yw hwn yn y bôn. Dewch â dillad cynnes a gwisgwch esgidiau addas.

Nodwch os gwelwch yn dda - yn y digwydded hwn caniateir bwyd a diod caiff ei brynu yn y castell yn unig. Bydd bar a bwyd ar gael ar y noson.

Theatr Mwldan yw’r unig fan lle cewch brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiadau hyn. Yn amodol ar argaeledd, cewch hefyd brynu tocynnau wrth y drws. Argymhellwn brynu tocynnau o flaen llaw i osgoi cael eich siomi.

Ni fydd unrhyw ad-daliad am ddigwyddiadau yn y Castell. Cynhelir digwyddiadau ym mhob tywydd gan eithrio’r tywydd MWYAF garw. 

Gallwch ffonio 01239 615131 am wybodaeth bellach am y Castell.

   

GWYBODAETH TOCYNNAU

  • Caiff eich tocyn ei sganio wrth y fynedfa ar gyfer y digwyddiadau hyn:
  • Derbyniwn docynnau go iawn (os wnaethoch brynu tocynnau mewn person o’r Mwldan) Gallwn sganio eich archeb ar eich ffôn symudol Gallwch ddod â’ch tocyn ‘printio gartref’ (PWYSIG – sicrhewch pan fyddwch yn printio eich tocynnau eich bod yn defnyddio’r ddolen ‘Click Here To Print Your Tickets’ sy’n cynnwys y codau QR, ac NID y ‘crynodeb tudalen’) Gallwch gasglu eich tocyn ar y noson
  • Bydd gan bob tocyn ar gyfer y digwyddiadau hyn god QR (fel cod bar) sy’n unigryw i’r unigolyn, a gellir ond ei ddefnyddio unwaith.
  • Sicrhewch eich bod yn gofalu am eich tocyn(nau) argraffu gartref fel unrhyw docyn arall. Mae gan bob tocyn cod QR unigryw y caiff ei sganio wrth y fynedfa i’r digwyddiad.
  • Os gwneir copïau o’r tocyn, dim ond y tocyn a ddefnyddir ar gyfer y sgan cyntaf o’r cod bar caiff fynediad.
  • Os ydyw’r cod bar unigryw eisoes wedi ei sganio, tynnir sylw’r gwasanaethydd a ni chaniateir mynediad. 
£20

Browse more shows tagged with:

Top