Logan Lucky (12A)

Steven Soderbergh | USA | 2017 | 119’

Daniel Craig, Channing Tatum ac Adam Driver sy’n serennu mewn comedi heist newydd Soderbergh sy’n cymryd ei arddull Ocean’s Eleven ac yn troi glam ar ei ben, gyda chast serol yn cefnogi. Mae’r teulu Logan yn griw gweithgar yn hanu o fryniau Gorllewin Virginia, sy’n enwog am eu hanlwc, hyd nes i’r cyfrwys Jimmy Logan benderfynu ei fod yn hen bryd newid pethau ac yn cynllunio i ddwyn $14 miliwn o Drac Rasio Moduron Charlotte.

£7.30 (£5.50)
DDANGOSIADAU GYDA ISDEITLAU: Dydd Mawrth 19 Medi @ 6.10yh

Browse more shows tagged with: