Back

NT Live: Julius Caesar

Ben Whishaw (The Danish Girl, Skyfall, Hamlet) a Michelle Fairley (Fortitude, Game of Thrones) sy’n chwarae Brutus a Cassius, David Calder (The Lost City of Z, The Hatton Garden Job)sy’n chwarae Caesar a David Morrissey (The Missing, Hangmen, The Walking Dead) yw Mark Antony. Wedi ei darlledu’n fyw o The Bridge Theatre, Llundain.

Dychwela Caesar yn fuddugol i Rufain ac mae’r bobl yn heidio o’u cartrefi i ddathlu. Wedi eu dychryn gan boblogrwydd yr awtocrat, mae’r elit dysgedig yn cynllwynio i’w ddymchwel. Ar ôl ei ddienyddiad, mae rhyfel cartref yn ffrwydro ar strydoedd y brifddinas.

Bydd cynhyrchiad Nicholas Hytner yn gwthio’r gynulleidfa i’r parti stryd sy’n croesawu dychweliad Caesar, y gyngres sy’n dyst i’w lofruddiaeth, y rali sy’n casglu ar gyfer ei angladd a’r anrhefn sy’n ffrwydro yn ei sgil.

£12.50 (£11.50)

Browse more shows tagged with:

Top