Back

Mwldan Summer School: The Hunt

Mae’n bleser gennym gyflwyno cyfres o gyrsiau a dosbarthiadau cyfranogol y celfyddydau perfformio ar gyfer ystodau oed cymysg yng ngwyliau’r haf 2017.

YR HELFA

12 - 16 Oed

Llun 7 -  Gwener 11 Awst

Ai’r heliwr neu’r un caiff ei hela ych chi?

Beth ych chi’n ceisio ei ddarganfod?

A beth a wnewch ar ol i chi ei ddarganfod?

Dyma i chi gyfle i chwilio am hunaniaeth trwy eich dychymyg gwyllt.

Prosiect Perfformio i bobl ifanc 12 i 16 oed yn gweithio gyda chyfarwyddwr proffesiynol i ddatblygu sgiliau

theatr, yn diweddu  gyda pherfformiad ar ddiwedd yr wythnos.

Sesiynau: 10yb - 4yp

Perfformiad o’r gwaith: 4:30yp  Gwener 11 Awst

Cost: £60 am yr wythnos i bob plenty

Nodwch os gwelwch yn dda - cynhelir y sesiynau hwn drwy gyfrwng y Saesneg

Yn rhan o Ysgol Haf y Mwldan 2017

Browse more shows tagged with:

Top