Back

Theatr Pena: Woman of Flowers

Cyd-Gynhyrchiad Theatr Pena | Taliesin Arts Centre 

gan SIÔN EIRIAN

gan ddilyn SAUNDERS LEWIS 

Dyw  Blodeuwedd  ddim  fel  merched  eraill. Fe’i consuriwyd  o  flodau  gwyllt  gan  y  dewin Gwydion a’i rhoi’n wraig berffaith i’r tywysog a’r rhyfelwr Lleu, ond mae gwylltineb natur yn rhan o’i gwead a phan ddeffroir ei nwydau synhwyrus mae’r canlyniadau yn rhai gwaedlyd a brawychus.

Mae Woman of Flowers yn addasiad barddonol cyhyrog o chwedl Blodeuwedd o’r Mabinogi gan yr awdur Cymraeg  arobryn Sion Eirian, ac  mae’n  cyfuno elfennau o ddrama fydryddol enwog Saunders Lewis gyda deunydd gwreiddiol i greu ffantasi hudolus a thywyll.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru gyda chefnogaeth ychwanegol gan Curo Advisers Limited a’u partneriaid strategol.   

£14 (£12)
PERFFORMIAD YN YR IAITH SAESNEG - YN ADDAS I OEDRAN 12+

Browse more shows tagged with:

Top