Detroit (15)

Kathryn Bigelow | USA | 2017 | 143’ Campwaith rhyfeddol sy’n archwilio digwyddiadau 1967 pan wnaeth ymosodiad heddlu yn Detroit sbarduno un o'r terfysgoedd hiliol mwyaf yn hanes yr Unol Daleithiau. Mae’n ddehongliad dramatig deifiol, ysgytiol a hynod effeithiol am ddigwyddiadau yng nghyffiniau Motel Algiers, lle cafodd tri dyn Affricanaidd Americanaidd ifanc eu llofruddio. Mae Bigelow yn hyrddio’r gwyliwr i ganol y digwyddiadau dirdynnol, gan lwyddo i gyfleu ansicrwydd yn ogystal ag asio sensitifrwydd gyda synnwyr newyddiadurol am fanylder mewn modd medrus.

£7.30 (£5.50)

Browse more shows tagged with: